Dydd Sadwrn Busnesau Bach - Heddiw

Pan ofynnwyd i ni aros yn lleol, dibynnai llawer ohonom yn drwm iawn ar ein busnesau lleol. Nawr bod cyfyngiadau teithio wedi'u codi, mae'n demtasiwn i fynd i'r siopau cadwyn mawr, ond mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn ein hatgoffa ni pwysigrwydd i barhau i gefnogi ein busnesau bach lleol.

Yn enwedig gyda chyfyngiadau ar waith sy'n effeithio ar lawer o fannau lletygarwch, mae'n bwysicach nag erioed i gefnogi ein tafarndai, bariau, caffis a bwytai lleol. Maen nhw wedi gweithio'n galed iawn yn ystod y pandemig i gydymffurfio â'r rheoliadau a chadw eu safleoedd yn ddiogel rhag Covid.

Gan eu bod yn berchennog busnes bach, mae'r cyfrifoldeb dros gadw cwsmeriaid yn ddiogel ar eu hysgwyddau nhw yn unig, ac ni ddylem danbrisio'r doll y mae hyn yn ei gymryd. Mae Mike Williams yn berchennog busnes bach ym Mlaenau Gwent:

"Fel gyda llawer o fusnesau eraill rydym yn gweithredu mewn llawer o wahanol gylchoedd. Bob tro y byddwn yn cwrdd â chwsmeriaid neu gleientiaid newydd rydym yn gamblo nad ydym yn dod yn rhan o'r gadwyn heintio. Mae sicrhau bod pawb yn dilyn y dulliau newydd a diogel o weithio yn achosi straen. Mae gennyf ddyletswydd gofal i'm holl gwsmeriaid, ac rwy'n ymwybodol bod hyn yn ymestyn yn anuniongyrchol y tu hwnt i'n cwsmeriaid a'n cleientiaid ac ymlaen i bobl fregus y gallant ddod i gysylltiad â nhw. Nid yw hyn wedi bod yn hawdd i mi ond yna nid yw wedi bod yn hawdd i neb."

Dywed Peredur Owen Griffiths, ymgeisydd Plaid Cymru dros Flaenau Gwent yn etholiadau'r Senedd:

"Gallwn helpu perchnogion busnesau bach fel Mike – maent wedi gweithio'n galed i gadw eu harferion gwaith a'u hadeiladau'n ddiogel, gallwn wneud ein rhan drwy siopa'n lleol. Mae cefnogi ein masnachwyr lleol yr un mor bwysig â chefnogi ein siopau lleol. Mae canol ein trefi a'r bobl sy'n darparu gwasanaethau yn ganolbwynt i'n cymunedau, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn eu diogelu pan fyddant ein hangen ni fwyaf."

Gallwn i gyd helpu i gefnogi ein busnesau lleol yn ddiogel, drwy arsylwi'r rheolau sydd mewn lle, drwy gadw 2 fetr oddi wrth gwsmeriaid eraill a thrwy wisgo mwgwd, os gallwch.

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd