Peredur yn ymosod ar ymddygiad "Cybyddlyd" y Cyngor Llafur

Pred_Profile_10.jpg

Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi cwestiynu y symiau enfawr o arian parod sydd yn cael ei gadw wrth gefn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru, wrth y Senedd fod ymddygiad yr awdurdod lleol dan arweiniad Llafur yn "Gybyddlyd".

Adleisiodd ei gydweithwyr yn y blaid yn galw ar yr awdurdod lleol i roi mwy o'u cronfeydd arian wrth gefn mewn cronfa galedi costau byw er mwyn helpu pobl fwy bregus yn wyneb costau esgynnol eitemau hanfodol.

Mewn cwestiwn i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, dywedodd Peredur: "Mae pobl yn cael ofni y posibilrwydd o fethu â fforddio'r pethau sylfaenol y gaeaf hwn, ac nid oes ganddynt lawer o ffydd mewn Prif Weinidog hynod gyfoethog sy'n gwneud dim iddyn nhw.

"Yn absenoldeb digon o help gan San Steffan, mae angen defnyddio cronfeydd wrth gefn sydd gan awdurdodau lleol ar gyfer dyddiau glawog.

"Yn anffodus, mae gennych chi awdurdodau lleol fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n cael ei redeg gan Lafur yn cynnal cronfa anferth o £180 miliwn.

"Cynyddodd y pentwr hwn o arian parod, sy'n fwy na'r arian wrth gefn a ddelir gan yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru, £16 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn unig.

"Dyma pam mae y Cynghorydd Greg Ead o Blaid Cymru Caerffili, wedi galw am gynyddu cronfa caledi byw costau byw Cyngor Sir Caerffili o £3 miliwn i £10 miliwn.

"A ddylai mandad y Llywodraeth gyfyngu ar sut y gall cronfeydd arian mawr fynd i atal awdurdodau lleol cybyddlyd rhag eistedd ar botiau enfawr o arian parod?"

Mewn ymateb, dywedodd Rebecca Evans ei bod yn falch bod awdurdodau lleol mewn "sefyllfa ariannol well".

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-10-26 15:51:59 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd