Peredur yn cymeradwyo Cwmni Cacennau Lleol ar ôl cyfarfod

Just_Love_Cake_Factory_pic.jpg

Ymwelodd Aelod Senedd Plaid Cymru â chyflogwr pwysig yn ei ranbarth i weld sut maen nhw'n gweithredu mewn marchnad fwyd gystadleuol a heriol.

Cyfarfu Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, â Phrif swyddog gweithredol y Just Love Food Company, Mike Woods, yn ystod ymweliad yn eu safle ar Barc Busnes Oakdale. Mae'r cwmni'n cyflogi dros 100 o bobl i gynllunio, gwneud a chyflenwi cacennau ar gyfer y prif archfarchnadoedd yn ogystal â dan eu hystod eu hunain.

Maen nhw'n arbenigo ar wneud cacennau yn rhydd o gnau ac alergeddau eraill gafodd eu datblygu wedi i Mr Wood gael trafferth dod o hyd i gynnyrch o'r fath i'w blant ei hun, ac mae gan ddau ohonyn nhw alergeddau cnau.

Ymhlith y materion a drafodwyd yn ystod y cyfarfod oedd recriwtio, cost gynyddol cynhwysion a'r posibiliadau ar gyfer ehangu capasiti a llinell gynnyrch y cwmni.

Dywedodd Peredur: "Mae'r Just Love Food Company yn enghraifft wych o gwmni sy'n darparu swyddi mawr eu hangen ar gyfer cymunedau lleol. Tyfon nhw'n gyflym oherwydd iddynt nodi bwlch sylweddol yn y farchnad gacennau ar gyfer cynnyrch alergedd-rhydd a figan  heb gyfaddawdu ar ansawdd a blas.

"Mae'r math yma o arloesi i'w gymeradwyo a'i annog.  Roeddwn yn falch o glywed gan Mike am uchelgais y cwmni i dyfu a datblygu yn y blynyddoedd nesaf.

"Gydag arweinydd mor brofiadol a gweithlu diwyd ac ymroddgar yn y cwmni, rwy'n edrych ymlaen at eu gweld yn cyflawni eu huchelgeisiau."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-09-07 16:22:06 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd