Mae Cymorth ar gael i'r Rhai sy'n Agored i Niwed Y Nadolig hwn – Peredur a Delyth

edit1.jpg

Mae dau Aelod Senedd Plaid Cymru wedi cyfeirio cymorth at bobl sydd angen llety neu sy'n wynebu unigrwydd y Nadolig hwn.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths a Delyth Jewell, sydd ill dau yn cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, ei bod hi'n bwysig bod pobl sydd angen cymorth dros gyfnod yr ŵyl yn gallu cael gafael arno.

Mae Shelter Cymru, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth ac awdurdodau lleol yn rhoi cyngor a chymorth i bobl sydd angen llety brys. Mae yna hefyd sefydliadau fel Age Cymru a Samariaid Cymru sy'n hesggnu pobl sy'n wynebu unigrwydd dros wyliau'r Nadolig.

Dywedodd Peredur: "Gall y Nadolig fod yn amser llawen i lawer o deuluoedd ond gall hefyd fod yn gyfnod o helbul a chynhyrfu. Gall perthnasoedd chwalu a gall pobl gael eu hunain heb do uwch eu pen o ganlyniad.

"Mae cymorth a chefnogaeth i bobl sy'n ddigartref ac rwy'n annog pobl yn y sefyllfa hon i ofyn am gymorth gan yr asiantaethau sydd allan yno i'w ddarparu."

Dywedodd Delyth: "Nid pawb sydd â chwmni teulu a ffrindiau dros y Nadolig. I rai pobl, gall y Nadolig fod yn amser unig iawn.

"I unrhyw un sy'n teimlo'n isel ac yn ynysig, rwy'n dweud hyn – 'dydych chi ddim ar eich pen eich hun.' Mae pobl allan yno ar ddiwedd ffôn sy'n barod i wrando ar eich pryderon  a rhoi sicrwydd. Peidiwch â dioddef yn dawel."

Gellir cyrraedd llinell Gyngor Shelter Cymru drwy ddeialu 08000 495 495. Gellir cysylltu â Chyngor ar Bopeth ar 0800 702 2020. Mae Age Cymru ar 0300 303 44 98 ac mae'r Samariaid ar 116 123.

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-12-22 10:31:27 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd