Peredur yn Craffu ar y Llywodraeth ar Ofal Lliniarol i Blant

Pred_profile_2.jpg

Mae AS Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i gynyddu'r cyllid ar gyfer hosbisau plant.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, sy'n AS ar gyfer rhanbarth Dwyrain De Cymru, ei bod yn bryd sicrhau nad oedd gofal lliniarol pediatrig mor ddibynnol ar gynhyrchu ei incwm ei hun.

Mae dwy hosbis plant yng Nghymru - Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith - yn derbyn llai na 10% o'u cyllid blynyddol gan Lywodraeth Cymru.  O gymharu, mae hosbisau plant yn Lloegr yn cael 21% o'u cyllid gan Lywodraeth y DU ac mae hosbisau plant yng Ngogledd Iwerddon yn cael 25% a hosbisau plant yn yr Alban yn cael 50% o’u cyllid gan eu llywodraethau hwy.

Mewn cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd, dywedodd Mr Owen Griffiths: "Mae fy nghwestiwn mewn dwy ran. A all Llywodraeth Cymru amlinellu faint o'r £8.4 miliwn a fuddsoddir yn y sector gofal diwedd oes bob blwyddyn yng Nghymru sy'n mynd tuag at wasanaethau gofal lliniarol pediatrig?

"Yn ail, mae Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith yn derbyn llai na 10 y cant o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae hon yn gyfran sylweddol is nag y mae hosbisau plant yn Lloegr a'r Alban yn ei chael gan eu priod Lywodraethau.

"A all y Llywodraeth hon felly ymrwymo i gynyddu cyllid y wladwriaeth ar gyfer dwy hosbis plant Cymru yn y tymor hir, ac i gyfarfod â Thŷ Hafan a Thŷ Gobaith i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hystyried yn yr adolygiad ariannu sydd ar y gweill ar gyfer hosbisau? "

Yn ystod y sesiwn, cydnabu'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan fod angen i'r Llywodraeth "wneud yn well" ar ofal lliniarol pediatrig ac y byddai adolygiad o'r trefniadau presennol yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-07-08 15:45:50 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd