Peredur yn Annog Pobl i 'Gadw'n Ddiogel' wrth i Achosion Coronafeirws Godi ac Effeithio ar Wasanaethau Ysbytai

Grange_pic_serious.jpg

Wrth ymateb i'r newyddion bod materion staffio wedi cau uned mân anafiadau yn gynnar, dywedodd Peredur Owen Griffiths AS ei fod yn "destun pryder."

Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fod yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Ystrad Fawr wedi cau yn gynnar nos Lun yr wythnos hon oherwydd diffyg argaeledd staff.

Dywedodd AS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru: "Er nad yw'r ymddiriedolaeth wedi bod yn benodol am y rhesymau dros faterion staff, rydym wedi gweld mewn mannau eraill yng Nghymru sut mae coronafeirws wedi effeithio ar wasanaethau a busnesau mewn rhannau eraill o'r wlad.

"Mae tystiolaeth gynnar yn awgrymu bod yr amrywiolyn Omnicron yn llai difrifol ond, oherwydd ei fod yn cael ei drosglwyddo’n haws, mae ganddo fwy o botensial i amharu ar wasanaethau allweddol fel ein GIG a'n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

"Gydag achosion yn cynyddu, bydd yr wythnosau nesaf yn gyfnod heriol. Rwy'n annog pawb i gyfyngu eu cysylltiad â phobl eraill gymaint â phosibl er mwyn cadw'n ddiogel a chyfyngu ar effaith coronafeirws ar ein gwasanaethau hanfodol."  

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-01-04 12:09:53 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd