Ni allwn aros am help gan Doriaid San Steffan yn yr Argyfwng Costau Byw – Peredur

Peredur_profile_pic_pro.PNG

Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw sydd ar y gorwel.

Siaradodd yr Aelod o Senedd Dwyrain De Cymru yn ystod dadl Plaid Cymru a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i 'gyhoeddi cynllun gweithredu costau byw brys i fynd i'r afael â'r pwysau a achosir gan y ddwy broblem o gynyddu costau a chyflogau’n aros yn eu hunfan.'

Oherwydd dileu cap prisiau ynni'r llywodraeth ym mis Ebrill ac yna eto ym mis Hydref, y rhagfynegiadau yw y bydd y bil ynni cyfartalog yn dringo i tua 75 y cant yn uwch na'r prisiau presennol.

Dywedodd Peredur: "Nid yw'n bosibl gorbwysleisio'r caledi a'r dinistr y bydd hyn yn ei achosi i gynifer o deuluoedd yn ein cymunedau. Mae llawer o bobl mewn sefyllfa ariannol ansicr fel y mae; ni allant fforddio'r hyn a fydd yn ein taro eleni. "

Ychwanegodd bod aros i Lywodraeth Dorïaidd San Steffan weithredu mewn modd cadarnhaol i'r argyfwng costau byw yn ofer. 

"Er bod miliynau o bobl yn poeni am sut y byddant yn gallu fforddio eu biliau dros y 12 mis nesaf," meddai Peredur  "mae'r diffyg ateb cydlynol gan Lywodraeth y DU dros yr argyfwng costau byw sydd ar y gorwel yn annerbyniol.

"Pe baent yn neilltuo cymaint o amser ac ymdrech i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ag y maent yn ei wneud yn trefnu partïon, byddem mewn gwell sefyllfa."

Ychwanegodd: "Ni allwn aros am weithredu gan Lywodraeth yn Llundain sydd mor ddi-gysylltiad â phobl o gymunedau dosbarth gweithiol.

"Os oes unrhyw un yn credu bod ewyllys wleidyddol o fewn Rhif 10 Downing Street i gyflawni dros bobl gyffredin sy'n byw yng Nghymru, yna dydyn nhw ddim wedi bod yn rhoi llawer o sylw i hanes.

"Mae pobl yng Nghymru angen help a sicrwydd, ac maen nhw eu hangen yn fuan. Rwy'n annog y Llywodraeth i weithredu'n gyflym."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-01-21 16:39:30 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd