Gallai a Dylai Llywodraeth Lafur wneud mwy am Argyfwng Costau Byw – Peredur

Pred_profile_2.jpg

Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i ddefnyddio'i phwerau i amddiffyn pobl yng Nghymru rhag yr argyfwng costau byw.

Mae Peredur Owen Griffiths wedi dweud y gallai gweinidogion yng Nghymru fod yn fwy rhagweithiol wrth geisio diogelu cymunedau rhag cost gynyddol eitemau hanfodol bob dydd fel bwyd ac ynni.

Mae'r AS dros Ddwyrain De Cymru wedi cymeradwyo galwadau Plaid Cymru am:

  • Haneru prisiau tren a chap ar brisiau bws.
  • Rhewi rhenti.
  • Estyniad o brydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion uwchradd.

Mae'r blaid hefyd yn cadw'r pwysau ar y Llywodraeth Dorïaidd i weithredu'n gyflym yn wyneb yr argyfwng cynyddol drwy alw am ddychwelyd i brisiau ynni cyn mis Ebrill i ddod â biliau cartref i lawr ac estyniad o'r gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau ac elusennau bach.

Dywedodd Peredur: "Yr argyfwng costau byw yw'r mwyaf difrifol o'r heriau sy'n wynebu llywodraethau o fewn y DU. Mae llawer o fywydau yn y fantol - dyna pa mor ddifrifol yw hyn.

"Rydym wedi gweld cynllun cadarn a roddwyd at ei gilydd gan Lywodraeth yr SNP i amddiffyn ei dinasyddion ond nid yw'r camau hynny wedi bod ar y gweill mewn chwarteri eraill.

"Mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn cwsg-gerdded i mewn i drychineb. Yn absenoldeb cynllun difrifol o San Steffan i helpu pobl, mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i amddiffyn pobl yn y wlad hon.

"Dyma pam mae Plaid Cymru yn adnewyddu galwadau am doreth o bolisïau fel lleihau costau trafnidiaeth gyhoeddus, rhewi rhenti ac ymestyn y polisi prydau ysgol am ddim i feddalu ergyd y gaeaf hwn.

"Nid yw'n rhy hwyr i gyflawni'r gweithredoedd hyn ac amddiffyn pobl yng Nghymru cyn yr hyn a allai fod yn aeaf caled iawn."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.

 


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-09-20 16:04:23 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd