‘Ewch am Bigiad', Peredur yn Annog ar ôl Cynnydd Mewn Cleifion Covid Difrifol Wael

Grange_pic_serious.jpg

Mae AS Plaid Cymru wedi galw ar bobl i gael eu brechu ar ôl datgelu bod cleifion coronafeirws bellach yn ffurfio'r rhan fwyaf o gleifion gofal dwys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Daeth y newyddion, gan ymgynghorydd gofal dwys o fewn y bwrdd iechyd, fod y bwrdd iechyd wedi troi yn statws 'coch' yn seiliedig ar fwy o gleifion Covid mewn gofal dwys na chleifion di-Covid.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS o Ddwyrain De Cymru: "Rwy'n bryderus o glywed bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi troi yn statws 'coch' oherwydd cynnydd mewn cleifion Covid difrifol wael. Mae hyn yn dangos bod y feirws ar gynnydd ac yn parhau i fod yn berygl i ni a'n cymunedau.

"Ni allwn fod yn hunanfodlon dros hyn ac rwy'n annog pawb nad ydynt wedi'u brechu eto i gael eu brechu os yw eu hiechyd yn ei ganiatáu. Bydd hyn nid yn unig yn amddiffyn eu hunain ond hefyd y rhai o'u cwmpas. Mae angen cymryd pob gofal rhesymol i atal lledaeniad y feirws er mwyn atal ton arall."

Ychwanegodd Peredur: "Mae Plaid Cymru hefyd wedi ysgrifennu at y Llywodraeth Lafur i weld sut y byddant yn ymateb i'r cynnydd mewn trosglwyddiadau, yn enwedig yn wyneb disgyblion sy'n dychwelyd i'r ysgol yn ystod y dyddiau diwethaf. Bydd cwestiynau difrifol yn cael eu gofyn ar lawr y Senedd pan fydd yn ailagor yr wythnos nesaf."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-09-07 13:48:31 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd