Peredur yn Hyrwyddo Hawliau Pobl Anabl yn Senedd Cymru

Pred_Profile_6.jpg

Mae Aelod Plaid Cymru o'r Senedd wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i fynd i'r afael â'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu wrth geisio defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Aelod o Ddwyrain De Cymru, fod yr adroddiad 'Drws ar Glo' yn gynharach y mis hwn yn tynnu sylw at y ffyrdd niferus y mae pobl anabl yng Nghymru dan anfantais yn eu bywyd bob dydd.

Cododd y mater yn y cyfarfod llawn o drafnidiaeth i bobl anabl ar ôl clywed am yr anhawster a gafodd rhai etholwyr wrth geisio archebu taith deuluol i Lundain gan fod dau ohonynt yn ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. 

Yn ystod Cwestiynau Busnes, dywedodd Peredur: "Yn gynharach y mis hwn, roedd yr adroddiad ‘Drws ar Glo’ a gomisiynwyd gan eich Llywodraeth yn larwm i lawer mewn awdurdod, gan ei fod yn manylu ar sut roedd y pandemig wedi arwain at wahaniaethu mewn darpariaeth meddygol, mynediad cyfyngedig i wasanaethau cyhoeddus a chymorth cymdeithasol ynghyd â gwanhau hawliau dynol sylfaenol yn gyffredinol i bobl anabl.

"Rwy'n gwybod bod y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi ymateb i'r adroddiad hwn gyda datganiad cabinet, a oedd yn mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a godwyd.

"Rwy'n awyddus i weld a yw argymhellion eraill yr adroddiad yn cael eu hystyried. Mae hyn yn dilyn achos a ddygwyd i'm sylw gan etholwyr, a oedd yn golygu bod teulu anabl yn ceisio teithio i Lundain ar y trên, ond heb allu gwneud hynny oherwydd terfyn ar gadeiriau olwyn ar drenau.

"Er gwaethaf archebu eu tocynnau ymhell ymlaen llaw, bu'n rhaid i'r teulu rannu a theithio ar drenau ar wahân, sy'n annerbyniol. Mae'r achos hwn yn cyd-fynd â chanfyddiadau'r adroddiad bod eich Llywodraeth chi, a dyfynnaf: 'angen mynd i'r afael â'r cyfyngiadau ar symudedd pobl anabl fel mater o frys drwy gynyddu arian i alluogi pobl anabl i ddefnyddio teithio 'mwy diogel' a hygyrch.'

"A all y Llywodraeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei gwneud yn deg i bobl anabl yn ein gwlad fel rhan o'ch ymateb i'r adroddiad ‘Drws ar Glo’?"

Mewn ymateb, dywedodd Lesley Griffiths AS bod "gwaith sylweddol i'w wneud" ond ei bod "ychydig yn gynamserol" i gyflwyno datganiad pellach.

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-07-14 13:10:38 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd