Ffigyrau Marwolaeth Cyffuriau yn "Frawychus a Gofidus" – Peredur

CPG_pic1.jpg

Mae Aelod Plaid Cymru o Senedd Cymru wedi galw o'r newydd am ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol yn dilyn cynnydd yn nifer y marwolaethau cyffuriau.

Roedd Peredur Owen Griffiths AS yn ymateb i ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol oedd yn dangos fod 210 o farwolaethau wedi eu cofnodi yng Nghymru yn 2021. O'i gymharu â'r 149 o farwolaethau gafodd eu cofnodi yn 2020, roedd hyn yn gynnydd o 41%.

Mae'r ffigyrau ar gyfer 2021 gyda'r uchaf ers i gofnodion ddechrau bron i 30 mlynedd yn ôl.

Dywedodd Peredur, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru: "Mae hyn yn gynnydd brawychus a gofidus yn nifer y marwolaethau o gyffuriau yng Nghymru. Mae pob un o'r marwolaethau hyn yn drasiedi i ffrindiau a theulu'r ymadawedig.

"Daeth hyn i'r amlwg mewn cyfarfod diweddar o Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Gamddefnyddio Sylweddau a sefydlais gyda'r elusen gyffuriau Kaleidoscope. Yn ein cyfarfod diwethaf, cafwyd arddangosfa weledol o flodau – wedi'i ymgynnull gan yr elusen Transform – i gynrychioli pob marwolaeth cyffuriau yn y DU dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Rordd yn arddangosfa bwerus a gofidus.

"Yn ei gyfanrwydd, mae hefyd yn dangos nad yw'r status quo ar bolisi cyffuriau yn gweithio a mae'n methu ein pobl a'n cymunedau."

Ychwanegodd Peredur: "Mae'n bosib y byddwn ni'n mynd at drin pobl sy'n gaeth i gyffuriau yn wahanol yng Nghymru gyda mwy o bwyslais ar leihau niwed ond mae cyfraith droseddol Lloegr yn dal yn berthnasol i Gymru.

"Mae'n hanfodol bod y system cyfiawnder troseddol wedi'i datganoli fel y gallwn ddatblygu polisi cyffuriau mwy tosturiol a mwy ar sail tystiolaeth sy'n ceisio cael defnyddwyr triniaeth effeithiol ac sy'n gwarchod ein cymunedau.   

"Heb ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol a newid mawr yn ein dull o fynd i'r afael â chyffuriau, mae arna'i ofnaf y bydd marwolaethau'n cynyddu ymhellach yn y blynyddoedd i ddod."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.

 


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-08-03 18:09:17 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd