Trafod Dyfodol Cymru mewn Digwyddiad Blaenau Gwent

EV1.jpg

Trafodwyd dyfodol Cymru yn ystod cyfarfod cyhoeddus yng Nglynebwy yr wythnos diwethaf dan arweiniad cyn Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood.

Cadeiriwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn yr eiconig Ebbw Vale Institute, gan un o MSs rhanbarthol yr ardal, Peredur Owen Griffiths ac roedd dros 40 o bobl yn bresennol.

Roedd y sesiwn yn ymdrin ag amrywiaeth o opsiynau cyfansoddiadol i Gymru eu hystyried yn y blynyddoedd i ddod a materion fel sut i wneud gwleidyddiaeth yn fwy tryloyw a sut i gynnwys mwy o bobl ifanc mewn gwleidyddiaeth.

Y digwyddiad hwn oedd yr olaf mewn cyfres o gyfarfodydd ledled Cymru a gynhaliwyd gan Leanne. Hi yw cynrychiolydd Plaid Cymru ar y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Dywedodd Peredur: "Roedd yn wych croesawu pobl i ddigwyddiad cyhoeddus ar ôl ychydig flynyddoedd o ddigwyddiadau ar-lein oherwydd y pandemig. Yn y gynulleidfa gwelsom rai wynebau cyfarwydd yn ogystal â rhai pobl a oedd yn mynychu eu cyfarfod gwleidyddol cyntaf.

"Roedd y trafodaethau a gawsom yn yr ystafell yn fywiog ac yn frwdfrydig. Mynegwyd amrywiaeth eang o safbwyntiau ynghylch sut y gallwn fwrw ymlaen â Chymru a chreu gwlad decach a mwy ffyniannus.

"Roedd cryn dipyn o dir cyffredin yn yr ystafell lle mae'r system bresennol wedi torri ac nad yw'n gwasanaethu Cymru'n dda iawn.

"Os oes unrhyw un eto i gyflwyno ymateb i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, yna byddwn yn eu hannog i ddweud eu dweud ar yr hyn a allai fod yn gomisiwn allweddol ar gyfer ein dyfodol."

I ddweud eich dweud, cliciwch y ddolen hon cyn diwedd y mis hwn: https://www.smartsurvey.co.uk/s/22MWBF/

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-07-19 17:14:53 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd