Ffermwyr Angen Sicrwydd, Peredur yn dweud wrth Lywodraeth Lafur

Trefil7.jpg

Mae un o Aelodau Senedd Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i ddarparu dyfodol diogel i ffermwyr yng Nghymru.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, wrth y Gweinidog Materion Gwledig fod ffermwr o’r rhanbarth wedi mynegi ofnau difrifol am ddyfodol amaeth oni bai bod pethau'n newid yn ddramatig.

Yn y Senedd, dywedodd: "Mae cost gynyddol eitemau hanfodol yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn rhy gyfarwydd ag ef. Mae'r gyfradd chwyddiant bresennol, sef tua 9.9 y cant, yn achosi problemau ariannol enbyd i bobl yng Nghymru.

"Mewn amaethyddiaeth, mae cyfradd chwyddiant yn rhedeg ar 23.5 y cant yn flynyddol, ond rwy'n credu mewn rhai mannau bod hynny hyd yn oed yn uwch. Mae hyn yn achosi i nifer o ffermwyr gwestiynu eu dyfodol yn y diwydiant.

"Fel y dywedodd un ffermwr mynydd yn fy rhanbarth i, 'Efallai y bydd ffermwyr yn gallu chynhyrchu bwyd ar golled am flwyddyn, ond fyddan nhw ddim yn gallu gwneud hyny am ddwy flynedd. Mae angen sicrwydd tymor hir, gan fod hwn yn amser pryderus'.

"Gweinidog, rwy'n gwybod bod amser o hyd i lunio'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig tan ddiwedd mis Hydref.

"Hoffwn gael sicrwydd gan y Llywodraeth bod cydnabyddiaeth bod yr heriau sy'n wynebu amaeth wedi newid yn ddramatig yn ystod y misoedd diwethaf.

"Hoffwn hefyd ymgymryd â ffermio y bydd dyfodol cynaliadwy i ffermio yng Nghymru, ar adeg lle mae'r angen am fwy o sicrwydd bwyd wedi cymryd mwy o frys."

Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Leslie Griffiths: "Mae'n anodd iawn gallu rhoi'r sicrwydd rwy'n gwybod eu bod nhw angen pan nad ydw i'n gwybod beth fydd fy nghyllideb y flwyddyn nesaf.

"Felly, mae'n anodd iawn i mi allu siarad am y gefnogaeth y bydden nhw'n ei gael, yn y ffordd y gwnaethon nhw pan oedden ni yn yr Undeb Ewropeaidd, nawr rydyn ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd a dydyn ni ddim yn gallu dibynnu ar y ffigwr yna bob blwyddyn, er i Lywodraeth y DU ddweud y bydden ni'n gallu pe bydden ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.

 


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-09-29 16:10:07 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd