Plaid Cymru yn galw am roi pwysau ar fwytai bwyd cyflym i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros daflu sbwriel

Mae cynnydd sydyn yn y sbwriel ers ailagor siopau bwyd cyflym ledled Cymru wedi sbarduno deiseb a galw ar Blaid Cymru i Lywodraeth Cymru ymyrryd

Wedi'i lansio ar 4 Mehefin gan Blaid Cymru Blaenau Gwent, mae'r ddeiseb yn galw ar y Llywodraeth i'w gwneud yn orfodol i fwytai bwyd cyflym sydd â chyfleusterau "Drive-Through" argraffu platiau rhifau ceir ar bob pecyn fel y gellir olrhain y sbwriel.

Mae'r ddeiseb yn nodi bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y sbwriel mewn cymunedau ledled Cymru ers ailagor bwytai bwyd cyflym yng Nghymru ar 2 Mehefin.

Cafodd y ddeiseb ei llunio gan Peredur Owen-Griffiths, ymgeisydd Senedd ar gyfer Plaid Cymru ym Mlaenau Gwent a oedd yn teimlo'n rhwystredig oherwydd fod cynifer o sbwriel gan fwytai bwyd cyflym a oedd yn ymddangos yn lleol bob dydd ers i'r bwytai ailagor.

Galwodd AS Plaid Cymru a Gweinidog Cysgodol yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llyr Gruffydd, y ddeiseb yn 'awgrym arloesol', a dywedodd ei fod ef ei hun wedi derbyn nifer o negeseuon e-bost gan ei etholwyr yng ngogledd Cymru yn pryderu am y cynnydd mewn taflu sbwriel ers i'r sefydliadau hyn ailagor.

Meddai Peredur Owen-Griffiths,

"Daeth y syniad ar ôl siarad â nifer o etholwyr yn ardal Glynebwy a Brynmawr, sy'n dweud eu bod wedi diflasu'n llwyr ar y sbwriel sy'n cael eu gadael yma.

"Mae llawer o waith da wedi'i wneud i glirio'r spwriel dros yr wythnosau diwethaf, ond fel y mae llawer yn ei ofni, pan agorodd y  "Drive-thru" dechreuodd pobl sylwi ar y cynnydd mewn sbwriel.

"Mae'n broblem glir, felly buom yn trafod nifer o opsiynau a dyma'r un oedd yn taro tant gyda phobl.

"Ein meddylfryd ni yw os gallwch argraffu'r rhif cofrestru ar docynnau ar gyfer meysydd parcio, yna does dim rheswm na allai rhywbeth tebyg ddigwydd pan fyddwch chi'n mynd i'r 'Drive-thru'.

"Yn wir, gyda'r rhif wedi argraffu ar draws y pecyn, rydym yn credu y byddai'r atebolrwydd yn fwy o lawer, ac yn cael effaith, gobeithio, ar leihau faint o sbwriel sy'n cael ei adael ar ochr y ffordd.

"Mae elfennau cyfreithlon a gorfodi posibl y cynllun hwn yn dal angen cael eu trafod a'u pennu, ond mae'n ymddangos bod y dechnoleg yno, ac rydym yn awyddus i'w defnyddio i atal taflu ysbwriel. "

Meddai AS Plaid Cymru a Gweinidog Cysgodol yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llyr Gruffydd,

"Mae'r cynnydd diweddar mewn taflu sbwriel ledled Cymru wedi bod yn bryder ac yn bwynt o rwystredigaeth i lawer o bobl ledled Cymru, gan gynnwys i lawer o'm hetholwyr. Mae'n ymddangos bod bwyd brys a sbwriel yn tueddu i fynd law yn llaw, ac mae arnom angen atebion tymor hir i fynd i'r afael â'r mater hwn.

"Un awgrym arloesol sy'n cael ei ddilyn mewn deiseb gan gangen o Blaid Cymru yw bod bwytai bwyd cyflym yn argraffu platiau rhif car cwsmer ar becynnu er mwyn annog pobl i beidio â gollwng sbwriel. Dyma'r union fath o feddwl creadigol sydd ei angen arnom i ddechrau trafodaeth ehangach ynglŷn â sut y gall busnesau a defnyddwyr gymryd mwy o gyfrifoldeb dros atal sbwriel.

"Mae angen i ni gofio, fodd bynnag, yn y bôn, mae'r bwytai bwyd cyflym eu hunain yn gorfod gwneud mwy i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd, a dylent symud yn gyflym tuag at ddewisiadau amgen sy'n ecogyfeillgar, fel deunydd pecynnu y gellir ei gompostio neu fioddiraddiadwy. Mae rhai eisoes yn mynd i'r cyfeiriad hwnnw, ond mae arnom angen newid sylweddol o ran cyflymdra.

"Dyna pam fod Plaid Cymru yn cefnogi cynigion fel gosod mwy o ddyletswydd cyfrifoldeb ar y rheini sy'n cynhyrchu gwastraff, cyflwyno cynlluniau dychwelyd am flaendal a deddfu i gael gwared ar bob plastig untro erbyn 2030."

 

https://www.plaidbg.cymru/litter_petition

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd