Mae aelod o Blaid Cymru yn y Senedd wedi croesawu'r newyddion y bydd adolygiad annibynnol i lifogydd yn cael ei gynnal yng Nghymru.
Roedd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru, yn ymateb i'r newyddion y bydd adolygiad yn ystyried tystiolaeth o ymchwiliadau a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Dan arweiniad y bargyfreithiwr blaenllaw Elwen Evans QC, mae'r adolygiad yn rhan allweddol o'r cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Dywedodd Peredur ei fod yn gobeithio y byddai'r ymarfer yn dysgu o'r camgymeriadau a wnaed gan wahanol asiantaethau yn y cyfnod cyn ac ar ôl Storm Dennis.
Dywedodd hefyd ei fod yn obeithiol y gellid datblygu "atebion parhaol i beryglon cynyddol yr argyfwng hinsawdd" o ganlyniad i'r adolygiad.
"Cafodd llawer o rannau o'm rhanbarth eu taro'n galed yn dilyn Storm Dennis," meddai Peredur. "Mae llawer o bobl mewn llefydd fel Llanhiledd, Ystrad Mynach a rhannau helaeth o Sir Fynwy yn dal i deimlo'n anesmwyth pryd bynnag y bydd glaw trwm oherwydd eu bod yn ofni y bydd hanes yn ailadrodd ei hun.
"Mae'n annheg bod pobl yn gorfod byw fel hyn. Gwyddom fod mwy o law yn fwy tebygol yn y dyfodol felly mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod gan asiantaethau sy'n gyfrifol am liniaru ac ymateb i lifogydd yr adnoddau sydd eu hangen arnynt.
"Mae angen i ni hefyd feddwl am atebion parhaol i beryglon cynyddol yr argyfwng hinsawdd. Er nad yw'r adolygiad hwn yn cyrraedd yr ymchwiliad cyhoeddus annibynnol y galwodd Plaid Cymru amdano, mae'n gam i'r cyfeiriad iawn.
"Rwy'n gobeithio y bydd yn arwain at ddiogelu ein cymunedau'n well a bod trigolion mewn cymunedau sy'n dioddef llifogydd yn cael y tawelwch meddwl y maent yn ei greu."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb