Gwahardd Rasio Milgwn yng Nghymru - Peredur

Greyhound_Rescue_Pic.JPG

Mae AS Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd holl rasio milgwn yng Nghymru.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru, mai yn ei ranbarth mae'r unig drac rasio milgwn sydd ar ôl yng Nghymru. Mae elusennau sy'n gweithio i achub milgwn yn dweud eu bod wedi achub cannoedd o'r cŵn o’r trac hwn yn Ystrad Mynach yn unig.

Yn ystod cwestiynau i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, dywedodd Peredur ei bod yn bryd i Gymru ymuno â'r rhan fwyaf o weddill y byd wrth wahardd y gweithgaredd hwn.

"Yn fy rhanbarth i, mae'r trac rasio milgwn olaf sy'n weddill yng Nghymru," meddai Peredur wrth y Senedd.

"Mae'r trac hwn hefyd yn annibynnol, sy'n golygu nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw ofynion rheoleiddio neu drwyddedu.

"Nid oes gofyniad am bresenoldeb milfeddygol na goruchwyliaeth lles yn ei le, fel y mae. Dywed Hope Rescue eu bod, yn ystod y pedair blynedd diwethaf, wedi cymryd 200 o filgwn o'r trac hwn—40 o'r rhain gyda anafiadau.

"Maen nhw'n ofni y bydd hyn yn cynyddu pan fydd y trac yn troi’n drwyddedig yn ddiweddarach eleni."

Ychwanegodd Peredur: "Dim ond wyth gwlad sydd ar ôl yn y byd lle mae rasio milgwn yn dal i gael ei ganiatáu. Weinidog, onid yw'n bryd inni ddilyn eu hesiampl a gwahardd y gweithgaredd hwn ar sail lles anifeiliaid?"

Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Leslie Griffiths ei fod yn rhywbeth yr oedd hi'n "edrych yn fanwl iawn arno" ond y byddai'n "rhaid edrych ar dystiolaeth, ymgynghoriad... a bydd y cyfan yn cymryd ychydig o amser, ac, yn amlwg, byddai'n rhaid i gapasiti deddfwriaethol fod ar gael i mi wneud hynny."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.

 


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-02-04 12:44:59 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd