Wrth ymateb i'r honiadau gwael a wnaed am swyddogion Heddlu Gwent yn rhannu cynnwys hiliol, misogynistaidd a rhywiaethol ar eu ffonau, dywedodd Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru fod yn rhaid "di-wreiddio ymddygiad o'r fath".
Dywedodd: "Mae'r deunydd a gafodd ei ddarganfod ar ffôn cyn-swyddog heddlu Gwent yn peri pryder mawr.
"Mae pob heddwas yn tyngu llw i wneud amddiffyn cymunedau - mae'r deunydd a ddatgelwyd gan yr adroddiad hwn yn disgyn yn byr iawn o'r safonau hynny.
"Ni ellir datgan barn o'r fath mewn unrhyw ran o’r heddlu ac mae'n rhaid di-wreiddio'r ymddygiad yma."
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i'r ymchwiliad fod yn drylwyr, yn eang ac yn dryloyw. Mae'n rhaid i Heddlu Gwent - a'r holl heddluoedd eraill - anfon neges clir i’w staff nad oes croeso i'r safbwyntiau na'r ymddygiadau hyn yn eu rhengoedd.
"Rwyf wedi cael sicrwydd gan y Prif Gwnstabl Pam Kelly y bydd camau trylwyr yn cael eu cymryd gan y llu dros y mater hwn."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb