Peredur yn Croesawu Hwb Ariannol i Hosbisau Plant

Ty_Hafan_1.jpg

Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru wedi croesawu'r newyddion y bydd hosbisau plant yng Nghymru yn cael hwb llawer gwell i'r gyllideb.

Roedd yr Aelod o Senedd Dwyrain De Cymru yn siarad ar ôl datganiad y bydd Tŷ Hafan yn y de a Thŷ Gobaith yn y gogledd yn derbyn 21% o'u cyllid o ffynonellau'r wladwriaeth. Yn flaenorol, cawsant lai na 10% o'r cyllid o ffynonellau'r wladwriaeth o'i gymharu â 50% ar gyfer hosbisau plant yn yr Alban.

Mae Peredur wedi bod yn ymgyrchu i'r hosbisau gael mwy o arian gan y wladwriaeth ers ei ethol y llynedd.

Dywedodd: "Mae hyn yn newyddion i'w groesawu'n fawr i'r ddwy hosbis a'r plant sâl maen nhw'n eu helpu. Byddant yn gallu cynnig mwy o ofal i blant a mwy o seibiant i'r teuluoedd.

"Mae'r diffyg cyllid gan y wladwriaeth yn rhoi hosbisau plant yng Nghymru o dan anfantais benodol; enwedig o'u cymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

"Mae hosbisau'n dal i gael eu hariannu'n fwy hael mewn mannau eraill ond mae hwn yn fan cychwyn da i ganiatáu i'n hosbisau ddarparu'r gwasanaethau a'r cymorth y maent am eu darparu ar gyfer ein plant mwyaf sâl a'u teuluoedd."

"Rydym wedi bod aros am amser maith ond mae'r diwrnod hwn wedi bod yn werth aros amdano i'n plant mwyaf bregus. Dwi mor falch ac yn hapus gyda'r newyddion."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-01-25 19:41:31 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd