Angen Gweithredu Ar Frys ar Gynnydd mewn Prisiau Tai – Peredur

Pred_profile.JPG

Mae AS Plaid Cymru wedi galw am "ymateb cadarn a chynhwysfawr" gan Lywodraeth Cymru ar ôl i newyddion ddod i'r amlwg bod prisiau tai wedi cynyddu fwyaf yng Nghymru o’u cymharu a gweddill y DU.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru ac sy'n lefarydd Plaid Cymru ar gymunedau, ei fod yn pryderu bod rhai o'r cynnydd mwyaf mewn prisiau yn cael eu gweld mewn etholaethau y mae'n eu cynrychioli megis Blaenau Gwent, Torfaen a Merthyr Tudful.

Dywedodd: "Mae newyddion am gynnydd pellach mewn prisiau tai yn peri pryder i gymunedau ledled Cymru lle mae pobl eisoes yn cael trafferth fforddio prynu cartrefi.

"Mae llawer o sylw wedi'i roi i'r effaith ar gymunedau arfordirol yng Nghymru ond fel y gwelsom o'r ffigurau diweddaraf, mae rhai o'r cynnydd mwyaf mewn prisiau wedi bod yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru.  

"Rwy'n gwybod o drafod gyda etholwyr a ffrindiau sut mae cynnydd cynyddol mewn prisiau tai yn effeithio ar bobl a chymunedau lleol. Bydd y duedd gynyddol hon yn rhoi pwysau pellach ar lawer o bobl, ond bydd yn effeithio ar brynwyr tro cyntaf yn arbennig.

"Bydd hefyd yn bygwth dyfodol ein cymunedau. Ni all pobl fforddio byw yn y man lle maen nhw'n galw yn adref bellach. "

Ychwanegodd Peredur: "Mae angen ymateb cadarn a chynhwysfawr gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw cymunedau yng Nghymru yn cael eu erydu. Does dim amser i wastraffu drwy chwarae ar y gyrion y broblem gynyddol hon."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-08-16 13:33:40 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd