'Gweithredu ar yr argyfwng yn y GIG', Peredur yn annog Llywodraeth Lafur

Grange_pic_serious.jpg

Dywedodd Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru wrth y Llywodraeth Lafur ei bod yn bryd cydnabod argyfwng yn y GIG yng Nghymru.

Siaradodd AS Dwyrain De Cymru yn ystod dadl ei blaid yn y Senedd am gyflwr gwasanaeth iechyd y wlad.

Dywedodd wrth y Gweinidog Iechyd bod gweithwyr ledled y GIG yn cael eu gor-weithio, yn brin o gyflog ac yn ofnus am yr amodau anniogel i gleifion.

Wrth siarad yn y Siambr, dywedodd Peredur: "Mae ein GIG yn torri. Mae'n rhaid i rywbeth roi. Mae problemau ers tro wedi bod gyda llif cleifion drwy ysbytai.

"Pan fyddwch yn cyfuno hyn â phwysau cynyddol ar ein gwasanaeth brys a mwy a mwy o gleifion yn cael eu hychwanegu at restrau aros, mae ein staff gweithgar yn cael eu gorfodi i weithio'n galetach, ac yn gweithio'n galetach mewn amodau gwaeth.

"Bydd rhai yn y Siambr hon na fydd eisiau clywed hyn; maen nhw'n gwrthod credu'r peth. Wel, peidiwch â chymryd fy ngair i amdano—cymerwch air Cymdeithas Feddygol Brydeinig Cymru Wales a ryddhaodd ganfyddiadau porth pwysau y GIG yn ddiweddar, man lle mae meddygon o bob cwr o Gymru wedi rhannu profiadau o gyflwr eu hamodau gwaith, a'r pwysau sy'n eu hwynebu'n ddyddiol.

"O drin cleifion mewn cypyrddau, ar gadeiriau, i weithio shifftiau 12 awr heb seibiant, gosododd meddygon eu profiadau i amlygu'r risg i ddiogelwch cleifion a staff. Mae pryderon eraill yn cynnwys cleifion sy'n aros am hyd at 14 awr yn yr adran damweiniau ac achosion brys yw'r normal newydd, roedd angen monitro calon ar gleifion yn mynd heb eu wnaud oherwydd diffyg lle, a chleifion yn cael eu trin yng nghefn ambiwlansys."

Galwodd Peredur hefyd ragrith galwadau diweddar y Gweinidog Iechyd Llafur ar bobl i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain tra bod ei chydweithwyr o'r blaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ceisio cau canolfan hamdden Pontllanfraith.

Ychwanegodd: "Mae'r streiciau diweddar nyrsys a gweithwyr ambiwlans yn ddewis olaf gan staff ymroddedig sydd â diogelwch cleifion wrth galon eu gweithredoedd.

"Dyna ddaeth allan yn glir yn ystod fy ymweliadau â llinellau piced: ie, mae cyflog yn bwysig, ond felly hefyd diogelwch cleifion.

"Ni ddylai staff orfod mynd ar streic i sicrhau eu hamodau gwaith a'r amodau diogel i gleifion... Fel plaid, rydyn ni wastad wedi bod ar ochr gweithwyr sy'n brwydro am gyflog teg ac amodau gwaith diogel.

"Mae digon o gyfleoedd wedi bod i Lywodraeth Lafur Cymru ddangos eu cefnogaeth i nyrsys. Dydyn nhw ddim wedi eu cymryd nhw."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2023-01-20 11:01:55 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd