'Siop un stop': Plaid Cymru yn datgelu cynllun ar gyfer darpariaeth iechyd meddwl pobl ifanc

 

Rhun ap Iorwerth yn cyhoeddi cynllun newydd y Blaid i gefnogi lles meddyliol pobl ifanc

Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn sefydlu canolfannau ar hyd a lled Cymru i ddarparu cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc, meddai Gweinidog Cysgodol Iechyd Rhun ap Iorwerth AS.

Byddai'r canolfannau'n cynnig cymorth cynnar i bobl ifanc nad ydynt yn ddigon sâl i ofyn am driniaeth seiciatrig uwch, ond eto angen cymorth iechyd meddwl arnynt. Byddent yn cynnig apwyntiadau cwnsela wedi trefnu o flaen llaw, neu ddelio ag argyfyngau, a hefyd ar sail pobl yn galw i mewn.

Dywedodd Mr ap Iorwerth y byddai'r canolfannau “siop-un-stop” yn “chwyldroi” y ffordd y mae pobl ifanc yn cael cymorth iechyd meddwl, ac, wrth fod yn gysylltiedig â gwasanaethau iechyd eraill, byddai'n helpu i gydgysylltu “gwasanaeth cynyddol wasgaredig”.

Mae'r cynllun sydd wedi'i gostio'n llawn yn adlewyrchu cysyniad tebyg sydd wedi'i lansio yn Seland Newydd, gyda'r lleoliadau yng nghanol y dref yn cynnig gwasanaethau gan feddygon, nyrsys, cwnselwyr, gweithwyr cymdeithasol a staff ieuenctid.

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn dangos bod Cymru'n wynebu ton o broblemau iechyd meddwl yn sgil Covid-19, gydag oedolion iau, menywod a phobl o ardaloedd difreintiedig yn dioddef fwyaf.

Meddai Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS,

“Gan fod cyfyngiadau Covid a gofynion hunan-unigedd yn effeithio fwyfwy ar bobl ifanc, ac amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau sydd ddim yn gysylltiedig â Covid yn ymestyn, nid ydym yn gwybod faint o bobl ifanc y gallai fod angen cymorth iechyd meddwl ar hyn o bryd.

“Mae angen i’r newidiadau o ran gwasanaethau a’u hargaeledd fod yn chwyldroadol. Bydd canolfannau ‘siop-un-stop’ Plaid Cymru yn rhan allweddol o'r trawsnewidiad hwnnw mewn gwasanaethau i bobl ifanc.

“Bydd y canolbwynt ar les ac iechyd meddwl. Byddai'r canolfannau hyn yn cynnig cwnsela drwy apwyntiad ond hefyd – yn hollbwysig – ar sail galw i mewn. Mae gennym eisoes wasanaethau galw i mewn ar gyfer problemau corfforol yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys, felly mae'n iawn cael gwasanaethau galw i mewn i'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl.

“Ni ddylid gadael unrhyw berson ifanc yn teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw gymorth, yn enwedig yn dilyn un o'r cyfnodau mwyaf o newid yn ein hanes. Heb ofal, gall iechyd meddwl gwael yn ystod plentyndod a'r glasoed arwain at broblemau iechyd meddwl pan yn hyn, ac felly mae'n bwysig iawn darparu cymorth cynnar yn hawdd i unrhyw berson ifanc sydd eu hangen.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd