AS Leol Yn Dod Yn Arwr ‘Teal’ I Gefnogi Menywod  Chanser Yr Ofari

Peredur_Owen_Griffiths_MS.JPG

Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru wedi cefnogi ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ofari.

Roedd AS Dwyrain De Cymru yn gwisgo'r lliw yn ystod digwyddiad fel rhan o Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofari ym mis Mawrth eleni.

‘Teal’ yw lliw ymwybyddiaeth o ganser yr ofari, sy'n parhau i fod yn frawychus o isel yng Nghymru. Mae data o Target Ofari Cancer yn dangos mai dim ond 27 y cant o fenywod yng Nghymru fyddai'n gallu enwi bol  wedi chwyddo fel symptom o ganser yr ofari

Symptomau canser yr ofari yw bol wedi'i chwyddo yn barhaus, gan deimlo‘n llawn, a phoen bol a'r angen i fynd i’r ty bach yn amlach neu ar fyrder.

Dywedodd Peredur: "Roedd yn wych bod yn rhan o ymgyrch a fydd, gobeithio, yn helpu i achub bywydau menywod. Mae dros 4,000 o fenywod yn y DU yn marw o ganser yr ofari bob blwyddyn. Yn anffodus, mae ymwybyddiaeth o'r symptomau allweddol yn parhau i fod yn bryderus o isel.

 "Mae'n rhaid i ni ddod at ein gilydd a gweithredu nawr i sicrhau bod pawb yn gwybod beth yw’r symptomau, a bod y rhai sy'n cael eu heffeithio gan ganser yr ofari yn wynebu gwell canlyniadau. Dyna pam yr oeddwn wrth fy modd yn ymuno ag eraill a chymryd rhan yn nigwyddiad ‘Teal Hero’ eleni gyda Target Ovarian Cancer i greu cynnydd cadarnhaol."

Ychwanegodd Peredur: "Mae dros 300 o fenywod yn cael diagnosis o ganser yr ofari bob blwyddyn yng Nghymru. Hoffwn weld gwelliant mewn ymwybyddiaeth o ganser yr ofari fel y gallwn fynd i'r afael â'r ystadegau – ac achub bywydau."

Dywedodd Alexandra Holden, Dirprwy Brif Weithredwr Target Ovarian Cancer: "Mae mor bwysig ein bod yn parhau i ddod at ein gilydd mewn digwyddiadau fel hyn i weithio i drawsnewid dyfodol canser yr ofari.

 "Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'r ASs hyn i wneud gwelliannau mewn diagnosis a goroesiad y mae menywod â chanser yr ofari a'u teuluoedd yn eu haeddu."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-03-29 15:37:24 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd