Ein Polisiau

Cymru Newydd

Ers y dechrau, ysbrydolwyd ein plaid nid yn gymaint gan y syniad o’r hyn yw Cymru ond yn hytrach gan yr hyn y gallai fod. Er mwyn adeiladu’r genedl yr ydym yn dyheu amdani ac yn ceisio bod, bydd angen i ni gael gafael ar arfau gwell a mwy niferus i gyflawni’r dasg sydd o’n blaenau. Rhaid i ni hefyd feddu ar ddychymyg a medr wrth ddefnyddio’r grymoedd hyn i’w llawn gallu. Bydd rhai o’r grymoedd hyn yn perthyn i lywodraeth, er y bydd nifer yn nwylo dinasyddion, busnes a chymdeithas sifil.

Gwahoddwn bob person yng Nghymru i ymuno â'r project anferth yma i adeiladu cenedl, yn ei ffordd ei hun, gyda’u mewnwelediadau, safbwyntiau a galluoedd eu hunain. Os ydym am gyflawni ein gwir botensial fel cenedl a galluogi pob un o’n dinasyddion i gyrraedd eu potensial hwythau, yna rhaid i ni gydgyfrannu ein dealltwriaeth gyfunol. Nid rheoli a chyfarwyddo yw ein swyddogaeth yn y project hwn, ond yn hytrach, ysbrydoli a galluogi, gan ymddwyn fel gwladwriaeth ddeallus, yn rhyddhau ysbryd o fentergarwch ar y cyd drwy Gymru gyfan. Mae’r syniad o Gymru fel cymuned o gymunedau, yn unedig yn ei amrywiaeth, wedi bod wrth galon cenhadaeth Plaid Cymru erioed. Helpwch ni i adeiladu’r Gymru Newydd heddiw.

Economi a Chyllid

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn adeiladu economi sydd yn gweithio er lles bawb yng Nghymru. Byddwn yn cynyddu ffyniant, yn lleihau anghyfiawnder, ac yn cryfhau adnewyddiad.

Iechyd

Does dim un rhan o’n gwasanaethau cyhoeddus sydd yn wynebu mwy o her na’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Mae poblogaeth sydd yn heneiddio, ynghyd ag epidemig o ordewdra ac afiechyd cronig, a chostau cynyddol cyffuriau’n cynrychioli argyfwng ar gyfer systemau iechyd o amgylch y byd. Ond yng Nghymru, man geni’r GIG, mae hyn wedi cael ei ddwysau a’i gymhlethu gan arweinyddiaeth wan ers dechrau datganoli. Canlyniad hyn yw ein bod wedi ein gadael gyda gwasanaeth sydd wedi ei strwythuro’n wael, sydd yn golygu deilliannau iechyd llawer gwaeth nac yn ardaloedd tebyg o Ewrop neu’r DG. Rydym am newid hwn a chreu Cymru Newydd.

Addysg

Mae canlyniadau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth ein plant yn waeth na phlant mewn unrhyw ran arall o’r DG ac yn waeth na chyfartaledd yr OECD. Addysg yw’r newid unigol mwyaf gallwn ni ei wneud yng Nghymru ac ni fydd Llywodraeth Plaid Cymru yn gadael ein pobl ifanc i lawr.

Amgylchedd

Yr her fwyaf a wynebodd dynoliaeth erioed yw i droi ein heffaith ar y blaned o fod yn ddinistriol i radlon. Byddwn yn lleoli Cymru fel cenedl sydd yn arwain yn yr ymrwymiadau net sero a wnaed ym Mharis yn 2015. Byddwn yn ceisio cael gwaharddiad llwyr ar ffracio a phyllau glo brig newydd. Credwn y dylai’r cyfrifoldeb am holl adnoddau naturiol Cymru fod yn nwylo pobl Cymru, drwy gyfrwng ein Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb dros holl bwerau yn ymwneud ag ynni.

Cydraddoldeb

Cred Plaid Cymru mewn cymdeithas deg a chyfiawn lle caiff pawb eu trin yn gyfartal a mwynhau’r un hawliau, waeth bynnag eu rhyw, ethnigrwydd, crefydd neu dueddiad rhywiol.

Tai

Mae angen cartref diogel, sefydlog ac addas ar bawb er mwyn aros yn iach, ond yng Nghymru, dyna fraint nifer llai o bobl bob blwyddyn, o achos prisiau’n codi a chyllidebau cyfyng y sector gyhoeddus.

Trafnidiaeth

Etifeddodd Cymru isadeiledd trafnidiaeth tameidiog ac anwastad. Bydd creu system drafnidiaeth genedlaethol digon da ar gyfer gofynion yr unfed ganrif ar hugain yn hanfodol bwysig i’n nodau cymdeithasol ac economaidd fel cenedl. Byddwn yn defnyddio’n mandad democrataidd newydd i fynnu datganoli pwerau llawn dros wasanaethau rheilffordd, tacsi, bws a tholl teithwyr awyr i Gymru a gweithredu Fformiwla Barnett yn llawn ar gyfer HS2. Byddwn hefyd yn defnyddio ein pŵer newydd i fenthyg er mwyn buddsoddi, ynghyd â’r Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol, i ddiwallu ein nodau strategol ar gyfer trafnidiaeth.

Bwyd, Amaethyddiaeth, a Physgota

Mae’r sector bwyd a diod Gymreig yn rhan anhepgor o lewyrch ac iechyd cymunedau ar draws Cymru. Mae’r gadwyn cyflenwi bwyd werth £7 biliwn i economi Cymru, tra bod y diwydiant bwyd a diod yn cyflogi tua 240,000 o bobl.

Cyfiawnder a Phlismona

Mae’n annerbyniol mai Cymru yw’r unig genedl yn y DG sydd heb bwerau dros ei pholisïau plismona a chyfiawnder.

Yr Iaith Gymraeg, Diwylliant a Chyfryngau

Dymuniad Plaid Cymru yw gweld Cymru gwirioneddol ddwyieithog lle gall dinasyddion ddewis pa iaith yr hoffent ei ddefnyddio yn eu bywydau bob dydd. Mae yna gefnogaeth fawr i’r nod o gyrraedd un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae gan y system addysg rôl allweddol i’w ware er mwyn creu’r twf sydd ei angen a sefydlu mai’r norm yw bod yn rhugl yn ein dwy iaith genedlaethol.

Cyfansoddiad Cymru

Does dim modd grymuso pobl Cymru gyda Llywodraeth Gymreig sydd yn ei hun yn wan ac israddol. Ein huchelgais yw gweld Cymru gryfach a mwy llwyddianus - ac i weithio ar yr uchelgais honno - yw un o’r nodweddion sydd yn diffinio’n gwleidyddiaeth.

Cymru a’r Byd

Dymunwn greu polisi rhyngwladol ar gyfer Cymru sydd yn adfer ein safle fel cenedl fasnach fawr. Byddwn yn cyflwyno Cymru Ryngwladol / Wales International, â chanddi gyfrifoldeb dros ddenu busnesau, talent a diwydiant newydd o bob man o amgylch y byd, ond hefyd i roi Cymru ar y llwyfan byd-eang ar gyfer ein hallforion.

Lles Anifeiliaid

Gall Cymru arwain y ffordd wrth amddiffyn anifeiliaid a sicrhau safonau lles anifeiliaid uchel. Credwn y dylai fod dedfrydau llymach ar gyfer y sawl sydd yn cam-drin anifeiliaid a dylid cadw Cofrestr Cam-drin Anifeiliaid ar gyfer Cymru.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd