‘Dangoswch i’r cyhoedd eich bod yn symud mor gyflym AC mor ddiogel â phosibl i godi cyfyngiadau.’ annoga Plaid ar Lywodraeth Cymru

Tra’n parhau i gefnogi’r dull pwyllog o roi iechyd y cyhoedd gyntaf, mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i ‘brofi a herio’ ei chyngor ei hun fel y gall Cymru godi cyfyngiadau mor gyflym ag mor ddiogel a phosibl.

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi adolygiad o’r cyfyngiadau yfory.

Gan gyfeirio at bryderon lles a phryderon economaidd, dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru “argyhoeddi pobl” ei bod yn symud ymlaen mor “gyflym â phosib” yn y ffordd fwyaf diogel.

Dywedodd Mr ap Iorwerth y dylai gweinidogion fod yn profi, yn herio ac yn modelu’r cyngor gwyddonol y mae’n ei dderbyn a galwodd ar y Llywodraeth i ddarparu “map llawer cliriach” o sut y mae’n bwriadu lleddfu cyfyngiadau dros yr wythnosau nesaf.

Pwysleisiodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid hefyd fod trefn profi ac olrhain “cadarn, effeithiol a phellgyrhaeddol” yn hanfodol.

Ychwanegodd Gweinidog Cysgodol dros yr Economi Plaid Cymru, Helen Mary Jones AS fod yn rhaid i iechyd a lles pobl “ddod yn gyntaf” ond galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu arweiniad i fusnesau Cymru ar sut y gallant agor yn ddiogel - gan gynnwys canllawiau manwl ar gyfer sectorau penodol gan gynnwys y sectorau twristiaeth a lletygarwch.

Meddai Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae ymlyniad pobl Cymru i’r cyfyngiadau wedi bod yn dda iawn, ac mae hyn wedi bod yn allweddol i gyfyngu lledaeniad yr haint a gall pob un gymryd clod am hynny. Ond wrth i amser fynd yn ei flaen, fe fydd hi’n anochel fod pobl yn dod yn gynyddol rhwystredig ac yn gweld colli anwyliaid ac yn poeni am yr elfen ariannol.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru argyhoeddi pobl ei bod yn ceisio symud ymlaen mor gyflym â phosibl, a'i bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau’r “normal newydd” - gan gynnwys caniatáu i fusnesau agor yn raddol ac yn ddiogel a chaniatáu mwy o hyblygrwydd i bobl dreulio amser gydag anwyliaid.

“Nid cyfaddawdu ar ddiogelwch yw hyn ond yr angen i fod yn dryolyw. Nid yw'n ymwneud ychwaith â chymharu ei hunain â'r hyn sy'n digwydd mewn unrhyw un wlad arall - gan gynnwys Lloegr. Rhaid i Gymru wneud yr hyn sy'n iawn i Gymru. Ond mae hefyd angen edrych ar beth mae tystiolaeth ryngwladol yn ei ddweud wrthym sy’n ddiogel gwneud a sicrhau fod y rhagofalon cywir ar waith - gan gynnwys trefn profi ac olrhain gadarn sy’n gweithio'n gyflym ac yn bellgyrhaeddol.

“Mae angen i weinidogion fod yn profi ac yn herio’r cyngor a gânt yn barhaus, a modelu opsiynau ar gyfer symud ymlaen, a gwneud hynny mewn ffordd mor gyhoeddus â phosibl. Nid oes unrhyw reswm pam na all y Llywodraeth ddarparu map llawer cliriach o sut y mae'n gobeithio codi cyfyngiadau yn ystod yr wythnosau nesaf.”

Ychwanegodd Helen Mary Jones MS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru,

“Rhaid i iechyd a lles pobl ddod yn gyntaf bob amser ond ar yr un pryd mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o effaith economaidd hyn i gyd.

“Mae busnesau Cymru yn ysu am fwy o eglurder. Dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu arweiniad brys i fusnesau Cymru ar sut y gallan nhw agor yn ddiogel. Dylid hefyd rhoi arweiniad manwl i sectorau penodol gan gynnwys y sectorau twristiaeth a lletygarwch sy'n wynebu ebargofiant economaidd oherwydd yr argyfwng hwn.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd