Mae Pred a Delyth yn cefnogi Ymgyrch Cyfiawnder i Reggie

Reggie's_Law_pic.jpg

Cyfarfu Aelodau Plaid Cymru o'r Senedd â grŵp ymgyrchu sy'n chwilio am reoliadau llymach ar werthu cŵn bach.

Mae Peredur Owen Griffiths AS a Delyth Jewell AS wedi cytuno i gefnogi'r ymgyrch Cyfiawnder i Reggie sy'n ceisio atal gwerthwyr cŵn bach twyllodrus sy'n aml yn bridio cŵn mewn amodau gwael, sydd ddim yn magu’r cŵn bach mewn amodau priodol yn ystod wythnosau cyntaf eu bywydau ac yna cludo anifeiliaid mewn faniau neu lorïau cyfyng pan fo'r anifeiliaid eisoes yn agored i niwed.

Cafodd yr ymgyrch ei sefydlu ar ôl i Reggie, ci bach 12 wythnos oed, farw ym mis Rhagfyr 2020 ar ôl cael parvovirus. Roedd ei berchnogion newydd wedi bod yn berchen arno am bedwar diwrnod yn unig.

Daeth i'r amlwg bod y gwaith papur a ddarparwyd iddynt gan y gwerthwr wedi'i ffugio. Daeth i'r amlwg hefyd nad oedd y ci bach wedi cael y brechiadau y dylai fod wedi'u cael a'i gludo drosodd o Iwerddon.     

Arweiniodd y profiad hwnnw i’r teulu'n sefydlu ymgyrch i wella lles cŵn bach a thynhau rheoliadau ynghylch gwerthu cŵn bach.

Yr wythnos hon yng Nghaerffili, cyfarfu Peredur a Delyth â rhai o'r tîm ymgyrchu o ‘Justice for Reggie’ i glywed mwy am y rhesymau pam mae angen newidiadau.

Dywedodd Peredur: "Roedd Delyth a minnau'n ddiolchgar am y mewnwelediad a roddodd yr ymgyrchwyr o Justice for Reggie i ni. Mae llawer o arian yn cael ei wneud gan fridwyr cŵn bach twyllodrus nad ydynt, i bob golwg, yn poeni fawr ddim am les y cŵn bach y maent yn eu gwerthu a'r cŵn y maent yn eu defnyddio i'w bridio.

"Mae'n amlwg bod angen rheoliadau tynnach i atal mwy o straeon arswydus fel yr hyn sy'n digwydd eto yn y dyfodol."

Dywedodd Delyth: "Mae'r straeon am yr amodau y mae cŵn yn cael eu bridio ynddynt a chŵn bach yn cael eu magu yn ofnadwy.

"Er mai Llywodraeth San Steffan sy'n gyfrifol am lawer o'r newidiadau i'r ddeddfwriaeth sydd eu hangen, byddwn yn edrych i weld pa bwysau y gellir eu dwyn o fewn Cymru i sicrhau canlyniad cadarnhaol."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-05-26 11:33:53 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd