Peredur yn galw am Ymyrraeth y Llywodraeth ar Gronfeydd Wrth Gefn Awdurdodau Lleol

Pred_profile_2.jpg

Mae Aelod Plaid Cymru o'r Senedd wedi galw ar i'r Llywodraeth yng Nghymru gyhoeddi cyngor ar ddefnyddio cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol i leddfu'r baich ar dalwyr y dreth gyngor.

Gofynnodd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, i'r Gweinidog Cyllid Llafur weithredu ar hyn fel nad yw'r baich o lenwi bylchau cyllid cyhoeddus yn disgyn yn awtomatig ar aelwydydd sydd eisoes dan bwysau.

Un o'r etholaethau yn Nwyrain De Cymru yw Blaenau Gwent sydd, er ei bod yn un o'r etholaethau tlotaf yng Nghymru, â'r dreth gyngor uchaf. Yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019, Blaenau Gwent yw'r etholaeth sydd â'r nifer uchaf o Ardaloedd

Cynnyrch Ehangach Haen Is (85.1%) yn y 50% mwyaf difreintiedig o ardaloedd Cymru.

Dywedodd Mr Owen Griffiths: "Mae COVID yn ddi-os wedi cael effaith fawr ar gyllid cyhoeddus ac nid yw awdurdodau lleol wedi bod yn eithriad.

"Mae'r ffordd y mae'r sector cyhoeddus wedi dod at ei gilydd ac wedi rhoi'r gorau i adnoddau i helpu yn y frwydr yn erbyn y pandemig wedi bod yn ysbrydoledig.

“Rwyf hefyd yn ymwybodol nad yw rhai cynghorau yng Nghymru wedi gallu gwario rhai o'u cyllidebau, gan fod gweithrediadau wedi dod i ben neu wedi cael eu cwtogi mewn rhai sectorau.

"Er enghraifft, rwy'n ymwybodol o rai cynghorau cymuned sydd wedi cronni cronfeydd sylweddol wrth gefn fel y pethau y maent fel arfer yn gwario arian arnynt, nid ydynt wedi gallu gwneud hynny oherwydd bod y rheini wedi bod ar stop.

"A oes unrhyw gyngor y gall y Llywodraeth hon ei roi i gynghorau, boed yn sir neu'n gymuned, ynghylch defnyddio cronfeydd wrth gefn i liniaru yn erbyn effaith incwm is mewn meysydd eraill, a lleddfu'r baich ar dalwyr y dreth gyngor?"

Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog Cyllid: "Wrth gwrs, os oes incwm ychwanegol wrth gefn erbyn hyn, rwy'n credu y gallai fod yn gyfle i awdurdodau lleol a'r cynghorau tref a chymuned lleol hynny fod yn ystyried beth allai eu cyfraniad fod wrth i ni symud i'r adferiad, a beth mae eu cymunedau lleol eu hunain yn dweud wrthynt yr hoffent weld y buddsoddiad hwnnw ynddo."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-06-24 12:43:02 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd