Peredur yn Cynrychioli Trigolion Ystad Dai yng Nghasnewydd mewn Cyfarfod gyda Chymdeithas Tai

Pred_profile_2.jpg

Mae AS Plaid Cymru dros Dde Ddwyrain Cymru wedi cyfarfod â chymdeithas dai i geisio sicrwydd ar ôl derbyn cwynion y byddai trigolion yn cael eu gorfodi allan o'u cartrefi.

Cyfarfu Peredur Owen Griffiths AS â Chartrefi Dinas Casnewydd (NCH) sydd ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ddyfodol ystâd Somerton sy'n cynnwys 355 eiddo; mae 203 ohonynt yn denantiaid i’r gymdeithas dai, gan adael 153 yn eiddo preifat.

Cyn y cyfarfod, cysylltodd perchennog tŷ ar ystâd Somerton â Peredur i ddweud ei fod yn ofni gorfod gwerthu ei gartref pe na bai'n cyd-fynd â chynlluniau datblygu.

Yn dilyn ei gyfarfod, dywedodd Peredur ei fod wedi cael sicrwydd gan uwch reolwyr yr NCH na fyddai yn gofyn am orchmynion prynu gorfodol.

"Roeddwn yn ddiolchgar i'r NCH am gyfarfod â mi ar fyr rybudd," meddai Peredur. "Dywedon nhw eu bod yn gynnar yn eu hymgynghoriad ar ddyfodol yr ystâd gyda gwaith adnewyddu neu ailadeiladu yn ddau o'r opsiynau cyfredol.

"Maen nhw eisiau siarad â chymaint o bobl â phosibl i fesur beth mae trigolion lleol ei eisiau i Somerton. Ar hyn o bryd maent wedi casglu barn traean o'r trigolion ond maent am gynyddu hyn yn sylweddol ac maent wedi bod yn mynd o ddrws i ddrws i ganfasio barn."

Ychwanegodd Peredur: "Roedd NCH yn gallu rhoi sicrwydd i mi na fyddai pobl yn cael eu gorfodi i symud allan o'u cartrefi os nad oeddent yn cytuno i gael un o'r adeiladau newydd ar yr ystâd - os mai dyna'r camau a gymerir yn y pen draw.

"Dywedasant hefyd y byddai pob ymdrech yn cael ei gwneud i gynnal cysylltiadau cymdogol agos os bydd pobl yn penderfynu symud i dai newydd.

"Fel Aelod o'r Senedd sy’n lefarydd ar gymunedau, roedd yn dda clywed bod ymrwymiad i gynnal cysylltiadau cymunedol da rhwng teulu a ffrindiau sy'n byw ar yr ystâd."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-08-04 12:27:41 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd