"Dydyn ni ddim yn mynd i aros i ddamwain angheuol ddigwydd – rydyn ni'n gweithredu nawr!"

Y cymdogion yn cymryd camau yn erbyn goryrru ar Heol Fictoria, Six Bells

Fel llawer o strydoedd ym Mlaenau Gwent, mae tai ar y naill ochr a dibyn serth ar yr ochr arall i Heol Fictoria yn Six Bells.

Mae'n un o'r ffyrdd i mewn i Six Bells, sy'n gartref i gerflun enfawr enwog Gwarcheidwad y Cymoedd. Ond nid yw'r Gwarcheidwad wedi gallu atal difrod o'r damweiniau lluosog a achosir gan draffig sy'n goryrru. Er gwaethaf newid yn y terfyn cyflymder o'r Terfyn Cyflymder Cenedlaethol i 30 ychydig cyn i chi gyrraedd y tai, nid yw llawer o fodurwyr yn arafu, sy'n boendod i'r bobl leol.

Mae ymgeisydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths, wedi bod yn helpu pobl leol i fynd i'r afael a'r mater eu hunain i sicrhau nad yw'r gwaethaf yn digwydd, ar ôl cael gwybod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent nad oedd "unrhyw dystiolaeth" bod problem ar Heol Fictoria.

Dywedodd Sue, preswylydd lleol "dydyn ni ddim yn mynd i aros i ddamwain angheuol ddigwydd – a bydd yn digwydd – rydyn ni'n gweithredu nawr."

Mae Sue wedi gweld drosti'i hun y difrod a achoswyd, pan aeth car a oedd yn goryrru i fewn i'r wal o flaen y ty a tharo i fewn i bum car wedi'i parcio.

Cysylltodd Sue a'i chymdogion â Peredur Owen Griffiths, a ddechreuodd ddeiseb ar unwaith i gael cefnogaeth gan fwy o drigolion cyn cysylltu â'r cyngor.

Daeth yn amlwg yn fuan fod hon yn broblem hirsefydlog, gyda nifer o achosion o ddifrod i geir, ac yn drasig, colli ci anwes annwyl.

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru Blaenau Gwent, Peredur Owen Griffiths:

"Mae'n wyrth nad oes neb wedi cael ei ladd, ond y pwynt yw, ddylen ni ddim gorfod aros nes bod rhywun yn cael ei ladd cyn i gamau gael eu cymryd.

"Ar ôl cysylltu â'r Cynghor Cymuned a'r Cynghor Bwrdeistref Sirol, heb gynnig cymorth, cysylltais wedyn â Heddlu Gwent a awgrymodd ein bod yn sefydlu gwyliwr cyflymder cymunedol – yn y bôn, y gymuned yn cael yr offer i fynd i'r afael â'r broblem eu hunain.

"Rydym bellach wedi cyfarfod â swyddog heddlu, ac mae'r trigolion lleol wedi gwirfoddoli i wneud yr hyfforddiant a fydd yn eu galluogi i gymryd camau yn erbyn y traffig sy'n goryrru. Bydd hyn yn ein helpu i greu darlun o'r broblem o geir sy'n goryrru er mwyn cael y dystiolaeth y mae'r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn dweud sydd ddim yn bodoli.

"Ni ddylai fod yn rhaid i'r gymuned weithredu, dylai'r cyngor fod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud pethau'n ddiogel."


Dangos 1 ymateb

  • Peredur Owen Griffiths
    published this page in Newyddion 2021-04-27 20:25:09 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd