Cefnogwch ein Gweithwyr Hunan-Gyflogedig

Cefnogwch ein Gweithwyr Hunan-Gyflogedig

Mae'r argyfwng Covid-19 yn achosi pryderon iechyd ac ariannol i bawb yng Nghymru. Mae Plaid Cymru yn croesawu'r camau sydd wedi eu cymryd eisoes gan y llywodraeth er mwyn cefnogi pobl yn ystod yr argyfwng. Ond, mae sawl person yn parhau i fod heb y cymorth sydd angen arnynt er mwyn eu helpu trwy'r cyfnod hynod o annodd yma.

Mae gweithwyr hunan-gyflogedig yn benodol heb dderbyn y cadarnhad angenrheidiol gan y llywodraeth na fyddant ar eu colled yn sylweddol os wnant y peth cywir ac aros adre.

Galwn ar lywodraeth y DG i gyhoeddi pecyn cymorth i weithwyr hunangyflogedig yn syth, gan gynnwys:

  • Rhoi union yr un cymorth i weithwyr hunangyflogedig, gweithwyr llawrydd, unig-fasnachwyr a gweithwyr yn yr economi gig ac sydd ar gael i weithwyr cyflogedig.
  • Rhaid gwarantu hyd at £2,500 y mis i weithwyr hunangyflogedig bydd yn debygol o golli cwsmeriaid neu fethu gweithio.

 

Cliciwch yma i lofnodi y ddeiseb

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd