Peredur yn Galw ar y Gweinidog Iechyd i Ddatrys Problemau Ysbyty Ar ôl Adroddiad Damniol

Denscombe_Clinic_thumbnail.jpg

Mae AS Plaid Cymru wedi dweud bod adroddiad damniol i adran damweiniau ac achosion brys yn ei ranbarth yn "rhoi darlun truenus" o wasanaethau gwael yn y GIG.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS fod cleifion a staff Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr yn haeddu gwell na'r sefyllfa a ganfu staff Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ystod ymweliad dirybudd ym mis Medi pan oedd yr ysbyty'n cael trafferthion yng nghyd-destun Covid. 

Canfu eu hadroddiad, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, 'broblemau sylweddol o ran argaeledd gwelyau a llif cleifion ar draws yr ysbyty,' 'nad oedd y bwrdd iechyd yn cydymffurfio'n llawn â llawer o'r Safonau Iechyd a Gofal'  a bod  'profiad gwael i gleifion ar draws yr Adran Achosion Brys a'r Uned Penderfyniadau Clinigol.'

Canfu'r adroddiad fod y staff 'mewn dagrau ac â chywilydd i weithio'  yn yr ysbyty.

Dywedodd Peredur: "Mae hwn yn adroddiad brawychus ac mae'n rhoi darlun truenus o ysbyty yn ei chael hi'n anodd iawn i ymdopi. Mae cleifion yn haeddu gwell, felly hefyd y staff na ddylent fod yn ofidus na’n teimlo cywilydd i ddod i'r gwaith, yn enwedig ar ôl yr aberth y maent wedi'i wneud yn ystod y pandemig i'n cadw'n ddiogel.

"Mae'n drueni nad oes gennym unrhyw sesiynau llawn ar ôl yr ochr hon i'r Nadolig i holi'r Gweinidog Iechyd am sut y aeth pethau mor wael yn Ysbyty'r Tywysog Charles. Yr wyf hefyd am wybod beth sy'n cael ei wneud i unioni'r sefyllfa.

"Wrth i ni nesáu at don newydd o coronafeirws, hoffwn gael sicrwydd bod yr ysbyty mewn gwell lle i gyfarfod â'r hyn sy'n dod. Byddaf yn cysylltu â'r Gweinidog Iechyd am atebion ar hyn."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-12-18 13:16:03 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd