Rhowch y bonws £500 i ofalwyr a HOLL staff cartrefi gofal

AS Plaid Cymru Delyth Jewell yn galw am daliadau unwaith-am-byth ar batrwm yr Alban i ofalwyr di-dâl a’r rhai nad ydynt ar y gofrestr gofal

Mae AS Plaid Cymru a’r Gweinidog cysgodol dros Lywodraeth Leol Delyth Jewell wedi galw ar i Lywodraeth Cymru roi’r taliad bonws £500 i bob gofalwr a staff cartrefi gofal.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 1 Mai y bydd pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn cael bonws ariannol o £500 yr un ar gost o £32.2m.

Fodd bynnag, mae’r gofal a ddarperir gan y 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn rhoi gwerth a amcangyfrifi fel £8.1bn i economi Cymru, ond am nad ydynt wedi eu cofrestru fel gofalwyr cymdeithasol, ni fyddant yn derbyn yr un taliad ariannol â gofalwyr taledig.

Holodd Ms Jewell pa gydnabyddiaeth a fydd i ofalwyr di-dâl nad ydynt yn gymwys am y cynllun.

Dywedodd y Gweinidog cysgodol dros Lywodraeth Leol y dylai gofalwyr di-dâl a’r rhai nad ydynt ar y gofrestr gael tâl cyfartal a’r un gydnabyddiaeth â gofalwyr taledig, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddilyn yr un agwedd â Llywodraeth yr Alban.

Cynigiwyd taliadau yn yr Alban o £230.10 fel rhan o ddeddfwriaeth frys y coronafeirws gan Lywodraeth yr Alban ac, os caiff ei gymeradwyo gan ASA, caiff ei dalu’n awtomatig i 83,000 o ofalwyr cymwys yn yr Alban ym mis Mehefin.

Meddai AS Plaid Cymru Delyth Jewell,

“Dylai’r holl staff sy’n gweithio mewn lleoliad cartref gofal a phob gofalwr di-dâl dderbyn y bonws o £500 a addawyd i ofalwyr cofrestredig.

“Rhaid i ofalwyr di-dâl yng Nghymru a’r rhai nad ydynt ar y gofrestr gofal gael cydraddoldeb cydnabyddiaeth oherwydd mae’r gofal a roddant yr un mor anhunanol, a’r un mor werthfawr â’r hyn a roddir gan ofalwyr taledig a’r rhai sydd ar y gofrestr.

“Mae’r Alban yn cymryd camau i roi’r un gydnabyddiaeth – dylai hyn gael ei adlewyrchu yma yng Nghymru. 

“Mae glanhawyr a staff arlwyo mewn cartrefi gofal yn peryglu eu diogelwch eu hunain bob dydd y maent yn mynd i’w gwaith. Maent yn haeddu cael eu trin fel aelodau cyfartal o’r tîm o bobl sy’n rhedeg cartrefi gofal a dylid eu cynnwys yng nghynllun taliadau bonws y Senedd.

“Taliad unwaith-am-byth yw’r lleiaf y gallwn roi i ddangos i weithwyr gofal ein bod yn rhoi gwerth arnynt, ond yn y tymor canol, rhaid i ni edrych eto ar y modd yr ydym yn trin staff gofal ac yn eu talu. Mae Plaid Cymru wedi galw am i’r holl ofalwyr a gweithwyr iechyd dderbyn codiad cyflog parhaol

“Mae’r pandemig hwn wedi ein gorfodi i edrych ar ba swyddi sydd yn ein cymdeithas yn hanfodol, a bod y rhai sy’n cefnogi ac yn gofalu am y mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn haeddu cael eu cydnabod am y cyfraniad rhyfeddol maent yn wneud.”

 

Arwyddwch y ddeiseb yma

https://www.plaid.cymru/give_carers_and_all_care_home_staff_the_500_bonus

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd