Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru yn cefnogi galwadau elusen am ddull mwy cadarn o ymdrin â'r ymrwymiad i ddileu achosion newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030.
Cyn Diwrnod Aids y Byd, mae'r Aelod o Senedd Dwyrain De Cymru yn cymeradwyo cynigion polisi a gyflwynwyd gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru i sicrhau bod Cymru'n cyrraedd ei tharged carreg filltir o fewn 10 mlynedd.
Mae'r elusen wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i gynyddu profion, lleihau diagnosis HIV hwyr, hyrwyddo'r broses o gyflwyno cyffuriau atal, sefydlu ymrwymiadau iechyd rhywiol clir ar gyfer pob bwrdd iechyd yng Nghymru ac ailwampio'r systemau data a gwyliadwriaeth HIV.
Maen nhw hefyd wedi galw am gymorth y llywodraeth i gefnogi pobl sy'n byw gyda HIV i fyw'n dda a chanolbwyntio ar roi terfyn ar y stigma i bobl sy'n byw gyda HIV.
Dywedodd Peredur: "Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn amser i fyfyrio ar sut mae pethau wedi symud ymlaen ers i'r achos cadarnhaol cyntaf o HIV gael ei adrodd 40 mlynedd yn ôl a chofio'r holl bobl hynny a fu farw o gyflyrau sy'n gysylltiedig ag Aids yn y blynyddoedd canlynol.
"Mae hefyd yn gyfle i weld ble rydyn ni'n mynd o ran lleihau cyfraddau heintio HIV a'r hyn y mae angen i ni ei wneud i gyrraedd ymrwymiad y llywodraeth i ddileu achosion cadarnhaol erbyn 2030.
"Rwy'n cefnogi'r gwahanol gamau a gyflwynwyd gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru gan y byddant, ar y cyd, yn dod â ni'n nes at gyflawni'r garreg filltir bwysig honno y byddwn, gobeithio, yn cyrraedd erbyn 2030 yng Nghymru.
"Mae lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â HIV hefyd yn bwysig. Mae awgrym ymgyrch gwrth-stigma genedlaethol i Gymru yn un y byddwn yn ei groesawu gan y byddai'n herio rhagfarn ac yn hyrwyddo dealltwriaeth dda o'r hyn y mae byw gyda HIV yn ei olygu.
"Er ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y pedwar degawd diwethaf o ran mynd i'r afael ag anwybodaeth, mae cryn ffordd i fynd o hyd."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.