Mae AS Plaid Cymru wedi dweud wrth y Llywodraeth Lafur fod angen strategaeth gwrthdlodi i Gymru "nawr yn fwy nag erioed".
Gwnaeth Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, y sylwadau yn ystod cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt yn y Senedd.
Tynnodd Peredur sylw at y ffaith ei bod wedi bod yn bum mlynedd ers i'r llywodraeth ddileu'r cynllun gwrth-dlodi Cymunedau'n Gyntaf yng Nghymru. Er gwaethaf lefelau tlodi sy'n gwaethygu a'r argyfwng costau byw sy'n dod i'r amlwg, nid yw'r Llywodraeth Lafur wedi datblygu strategaeth wrth dlodi.
Ar lawr y Senedd, dywedodd Peredur: "Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers i benderfyniad gael ei wneud i gau Cymunedau'n Gyntaf, rhaglen gwrth dlodi'r llywodraeth.
"Yn dilyn y penderfyniad hwn, lluniodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau adroddiad oedd yn argymell cyhoeddi 'strategaeth taclo tlodi clir sy'n dwyn ynghyd y gwaith niferus o ran lleihau tlodi er mwyn helpu i roi cyfeiriad clir ac i helpu'r Cynulliad i graffu ar ddull y Llywodraeth.'
"Roedd hefyd yn argymell bod dangosyddion perfformiad yn cael eu gwreiddio o fewn y strategaeth."
Ychwanegodd: "Ni yw unig genedl y DU lle gwelwyd bod tlodi plant yn cynyddu. Diolch i'r Torïaid yn San Steffan, mae tlodi yn mynd yn llawer, llawer gwaeth.
"Pam ydyn ni'n dal i ddisgwyl am strategaeth gwrth dlodi yng Nghymru pan fo'i angen fwy nag erioed."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb