Wrth ymateb i'r newyddion bod yr holl apwyntiadau a chlinigau arfaethedig wedi'u gohirio gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar gyfer angladd y Frenhines ddydd Llun, dywedodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru Peredur Owen Griffiths: "Bydd hyn yn ergyd i lawer o gleifion oedd i fod i gael eu gweld ddydd Llun. Rydym yn gwybod bod bron i 100,000 o gleifion yng Nghymru yn aros yn hirach na blwyddyn ar gyfer eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf.
"Bydd rhai o'r bobl hynny oedd i fod i gael eu gweld ddydd Llun wedi bod yn aros yn sylweddol hirach na blwyddyn. Heb os mae'r pandemig wedi gwaethygu'r ôl-groniad yn GIG Cymru a gwneud cyflyrau sy'n heriol i staff a chleifion fel ei gilydd - dyma pam mae'r gohiriadau ar gyfer dydd Llun yn anodd eu cyfiawnhau.
"Rydyn ni'n gwybod y gall rhagor o oedi arwain at waethygu'r amodau ac mae'n ddyletswydd ar y bwrdd iechyd i sicrhau y bydd y rhai na fydd yn cael eu gweld ddydd Llun yn cael apwyntiad newydd yn y dyfodol agos."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb