Angen Gweithredu ar Waith Ffordd – Peredur

Brynithel_tie_snip.PNG

Mae AS Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i ymyrryd dros waith ffordd dadleuol sydd wedi plagio tref ers blynyddoedd.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS y dylai'r Llywodraeth yng Nghymru gyfeirio adnoddau i sicrhau eu bod yn cau pen y mwdwl ar y gwaith ffordd Blaenau'r Cymoedd o amgylch Brynmawr a’u bod yn gorffen mewn da bryd ar gyfer y Nadolig. Galwodd hefyd am ddarparu cymorth ariannol i fusnesau sydd wedi cael eu heffeithio gan y gwaith ffordd.

Yn ystod Cwestiynau Busnes yn y Senedd, dywedodd AS Dwyrain De Cymru: "Hoffwn godi mater ar ran trigolion a busnesau yn ardal Brynmawr a thu hwnt, sydd wedi cael eu heffeithio gan y gwaith parhaus ar ffordd Blaenau'r Cymoedd.

"Mae hon wedi bod yn saga hirhoedlog i'r bobl leol gan fod y gwaith wedi llusgo ymlaen ac ymlaen. Yr hyn a addawyd oedd cau'r slipffordd am dri mis wedi'i droi'n 15 mis. Rwy'n falch bod y ffordd ymadael, o ddydd Llun ymlaen, bellach wedi agor rhwng 6 a.m ac 8 p.m, ond mae gwaith i'w wneud o hyd ar y rhan hon o'r ffordd, sydd i lawr i un lôn ar hyn o bryd.

"Mae contractwyr wedi dweud, os gellir dibynnu ar hynny, y bydd yr adran yn cael ei chwblhau rywbryd yr hydref hwn, sy'n dod i ben yn swyddogol lai nag wythnos cyn y Nadolig.

"Mae trigolion a busnesau lleol wedi dioddef yn ddigon hir yn barod; mae llawer o fasnachwyr lleol yn simsanu ar y dibyn. A ellir archwilio mater cymorth busnes? Cyflwynais gwestiynau ysgrifenedig ar y mater, ond nid oedd yr atebion a ddaeth yn ôl yn sylweddol.

"Dywedodd un preswylydd lleol wrthyf yr wythnos hon, 'Rydym wedi bod yn ddigon amyneddgar'. Wrth i gyfnod hanfodol y Nadolig nesáu, a ellir cyfeirio adnoddau hefyd at y rhan hon o'r ffordd, er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau cyn y dyddiad cau ar 20 Rhagfyr, na fydd, os yw'n rhedeg hyd at y dyddiad hwnnw, yn dda i ganol y dref sydd eisoes wedi dioddef digon ac sy'n bwriadu manteisio ar y cyfnod cyn y Nadolig?"

Mewn ymateb, dywedodd y Trefnydd Leslie Griffiths AS: "Rwy'n falch iawn bod y ffordd ymadael wedi agor, a byddaf yn sicr yn gofyn—rwy'n cymryd mai'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd a'ch atebodd—byddaf yn sicr yn gofyn iddo ailedrych ar eich cwestiynau ysgrifenedig i weld a oes unrhyw wybodaeth bellach y gellir ei rhoi, a sicrwydd i'ch etholwyr."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-11-09 17:03:04 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd