Ymwelodd Aelod Senedd Plaid Cymru â chyflogwr pwysig yn ei ranbarth i weld sut maen nhw'n gweithredu mewn marchnad fwyd gystadleuol a heriol.
Cyfarfu Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, â Phrif swyddog gweithredol y Just Love Food Company, Mike Woods, yn ystod ymweliad yn eu safle ar Barc Busnes Oakdale. Mae'r cwmni'n cyflogi dros 100 o bobl i gynllunio, gwneud a chyflenwi cacennau ar gyfer y prif archfarchnadoedd yn ogystal â dan eu hystod eu hunain.
Maen nhw'n arbenigo ar wneud cacennau yn rhydd o gnau ac alergeddau eraill gafodd eu datblygu wedi i Mr Wood gael trafferth dod o hyd i gynnyrch o'r fath i'w blant ei hun, ac mae gan ddau ohonyn nhw alergeddau cnau.
Ymhlith y materion a drafodwyd yn ystod y cyfarfod oedd recriwtio, cost gynyddol cynhwysion a'r posibiliadau ar gyfer ehangu capasiti a llinell gynnyrch y cwmni.
Dywedodd Peredur: "Mae'r Just Love Food Company yn enghraifft wych o gwmni sy'n darparu swyddi mawr eu hangen ar gyfer cymunedau lleol. Tyfon nhw'n gyflym oherwydd iddynt nodi bwlch sylweddol yn y farchnad gacennau ar gyfer cynnyrch alergedd-rhydd a figan heb gyfaddawdu ar ansawdd a blas.
"Mae'r math yma o arloesi i'w gymeradwyo a'i annog. Roeddwn yn falch o glywed gan Mike am uchelgais y cwmni i dyfu a datblygu yn y blynyddoedd nesaf.
"Gydag arweinydd mor brofiadol a gweithlu diwyd ac ymroddgar yn y cwmni, rwy'n edrych ymlaen at eu gweld yn cyflawni eu huchelgeisiau."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb