Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru yn cefnogi Diwrnod Hawliau Gofalwyr eleni.
Mae Aelod Dwyrain De Cymru o’r Senedd yn cefnogi ymdrechion Gofalwyr Cymru i godi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr.
Daw Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar ôl i arolwg diweddar o bron i 6,000 o ofalwyr ddatgelu bod pedwar o bob pump o ofalwyr di-dâl yn darparu mwy o ofal i berthnasau, dywedodd 78% fod anghenion y person y maent yn gofalu amdano wedi cynyddu yn ystod y pandemig a bod dwy ran o dair (67%) yn poeni am sut y byddant yn ymdopi drwy gyfyngiadau symud pellach neu gyfyngiadau lleol.
Mae Peredur wedi addo iddo ef a staff ei swyddfa ddod yn ‘Carer Aware’ drwy fynychu sesiynau hyfforddi ar-lein a drefnir gan Ofalwyr Cymru.
Dywedodd Peredur: "Mae gofalwyr yn chwarae rhan gynyddol bwysig mewn cymdeithas. Mae llawer o'u gwaith heb ei weld a heb ei ganmol. Yn aml, nid ydynt yn cael yr help y mae ganddynt hawl iddo am nad ydynt yn ymwybodol o'u hawliau.
"Rwy'n cefnogi galwadau gan Ofalwyr Cymru i gynyddu gwybodaeth am hawliau gofalwyr oherwydd, fel y dangosodd yr arolwg diweddar, mae llawer o ofalwyr ar flaen y gad.
"Mae gofalwyr wedi camu i fyny ac wedi llenwi'r bwlch a adawyd gan ymateb rhai awdurdodau lleol i'r pandemig. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyda gwasanaethau i oedolion anabl yn cael eu tynnu'n ôl gan yr awdurdod dan arweiniad Llafur.
"Hyd nes y bydd gofalwyr yn cael y parch a'r driniaeth y maent yn eu haeddu, bydd yr ymgyrchu'n parhau am eu bod yn haeddu cymaint gwell.
"Rwy'n hapus i ymuno â Gofalwyr Cymru i godi ymwybyddiaeth am y rôl anhygoel y mae gofalwyr yn ei chwarae mewn cymdeithas ac ymuno â'r galwadau am well triniaeth."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb