Mae Aelod Plaid Cymru o'r Senedd wedi annog y llywodraeth i wrthsefyll datblygiad tai dadleuol ar dir ger y Coed Duon.
Ar lawr y Senedd, cododd Peredur Owen Griffiths AS o Ddwyrain De Cymru gynlluniau Persimmon i adeiladu 300 o gartrefi ar gaeau o amgylch Heol y Cefn, Cefn Fforest, Bedwellty.
Gwrthododd Llywodraeth Cymru ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad hwn yn 2020, ond heriwyd y penderfyniad hwn yn yr Uchel Lys, a ddiddymodd benderfyniad y Llywodraeth wedyn.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, lythyr yn rhoi hysbysiad i Persimmon ei fod yn gwahodd sylwadau ynghylch a ddylid ailagor yr ymchwiliad ai peidio yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys.
Yn ystod Cwestiynau Busnes, dywedodd Peredur: "Nid yn unig yr hoffwn i'r ymchwiliad hwn ailagor, ond hoffwn i'r Llywodraeth adolygu'r broses gynllunio bresennol gyda'r bwriad o dynhau gweithdrefnau fel eu bod, pan wneir penderfyniadau i wrthdroi ceisiadau cynllunio, yn gadarn ac yn cael amddiffyniad cadarn y tu ôl iddynt, yn barod ar gyfer unrhyw her gyfreithiol.
"Fy mhryder i yw, os aiff y datblygiad hwn yn ei flaen heb lawer o frwydr, y bydd datblygwyr yn rhwbio eu dwylo mewn llawenydd gan wybod mai dim ond bwmp ar y ffordd i gael yr hyn y maent ei eisiau yn y pen draw yw gwrthodiad llywodraeth Cymru ar faterion cynllunio."
Atebodd y Trefnydd Leslie Griffiths nad oedd hi'n credu y dylai'r mater gael datganiad gan y llywodraeth, ond dywedodd y byddai'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd ysgrifennu at Peredur os yw'n credu bod rhagor o wybodaeth i'w darparu.
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb