Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi croesawu newyddion bod cwmni sydd y tu ôl i gynlluniau i adeiladu ffatri ailgylchu gwydr mawr eisiau cyflogi cymaint o gontractwyr lleol â phosibl yn ystod y cyfnod adeiladu.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru, ei bod yn bwysig bod y cwmni o Dwrci Ciner Glass wedi dweud y byddant yn trio “defnyddio contractwyr lleol lle bo modd” yn ystod cyflwyniad rhithwir yr wythnos hon.
Yn ystod y sesiwn 40 munud ar-lein, ymatebodd Selçuk Küçükseyhan o Ciner Glass yn gadarnhaol i gwestiwn am y defnydd o gontractwyr lleol yn ystod cyfnod adeiladu eu cyfleuster gweithgynhyrchu arfaethedig yn ardal Rassau. Os bydd y ffatri'n mynd rhagddi, bydd hyd at 450 o bobl yn cael eu cyflogi yn ystod y cyfnod adeiladu a bydd 600 o swyddi'n cael eu darparu unwaith y bydd yn gwbl weithredol.
Mae cyfnod ymgynghori newydd ddechrau ar y cynllun a mae Peredur wedi annog pobl leol i'w wirio a i ddweud eu dweud.
Dywedodd: "Rhoddodd y cyflwyniad gan Ciner Glass wybodaeth fanwl am y cyfleuster arfaethedig.
"Roedd yn dda clywed, os bydd y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen, y bydd cymaint o gontractwyr lleol â phosibl yn gallu manteisio ar y cyfleon a’r hwb i’r economi leol. Bydd hyn yn newyddion da i fasnachwyr sydd â'r sgiliau i helpu gyda'r gwaith adeiladu."
Ychwanegodd Peredur: "Mae'r ymgynghoriad newydd ddechrau ac rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i weld y dogfennau niferus a ddarperir ar y prosiect. Mae opsiwn hefyd i bobl ddweud eu dweud a gwyntyllu unrhyw bryderon."
Ceir rhagor o wybodaeth a'r cyfle i gyflwyno barn ar dudalen we ymgysylltu rhithwir y prosiect - https://ciner-glass-wales.virtual-engage.com/
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb