Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i roi mwy o arweiniad i awdurdodau o ran erlyn troseddau amgylcheddol ar dir comin.
Gwnaed yr alwad gan Peredur Owen Griffiths yn ystod cwestiynau'r Senedd i'r Gweinidog Materion Gwledig. Codwyd y cwestiwn yn dilyn cyfarfod gydag arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ynghylch nifer o faterion ar Gomin Eglwysilan rhwng Senghennydd, Abertridwr a Penyrheol,
Yn y Senedd, dywedodd Peredur: "Rwy'n codi'r mater hwn gan fod problemau wedi digwydd ar dir comin yn fy rhanbarth. Mae'r model llac presennol o berchnogaeth ac atebolrwydd yn golygu mai'r cyfan y mae'n ei gymryd yw tirfeddiannwr twyllodrus i amlygu'r diffygion cynhenid o fewn y system.
"Heb fynd i ormod o fanylion am achos lleol sy'n dod i’r meddwl, mae enghraifft clir yn fy rhanbarth i o sut y gall tirfeddiannwr ddianc gyda llu o droseddau yn erbyn yr amgylchedd heb sgil-effeithiau sylweddol gan yr awdurdodau.
"Fe wnes i gyfarfod â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ddiweddar, ac fe ddywedon nhw wrtha i sut maen nhw'n teimlo'n rhwystredig ynglŷn â'r trefniadau presennol. Mae angen llinellau atebolrwydd clir, a chamau gorfodi cyflym lle bo angen, os ydym am ddiogelu a chadw ein tir comin gwerthfawr er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau."
Ychwanegodd: "A all y Llywodraeth hon ddarparu cyfeiriad a chanllawiau clir, fel bod arferion drwg yn cael eu taclo'n gadarn a'u rhwystro rhag digwydd eto?
"Ac a all Llywodraeth Cymru hefyd ddarparu cyfarwyddyd, arweiniad a chefnogaeth i unrhyw gamau adferol sydd angen digwydd?"
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths, gan gyfeirio at y gwaith partneriaeth ar dir comin rhwng awdurdodau cyhoeddus fel cynghorau a Chyfoeth Naturiol Cymru, "yn anffodus, weithiau, dwi ddim yn credu ei fod mor gydweithredol ag y dylai fod."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb