Cynllun i Ailwampio'r Dreth Gyngor i'w Wneud yn Decach Croeso gan Peredur

CTax_biling.png

Mae AS Plaid Cymru wedi croesawu cynlluniau i ddiwygio'r dreth gyngor i'w gwneud yn decach i aelwydydd incwm isel.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru sydd â rhai o'r taliadau treth gyngor uchaf yn y wlad, ei bod yn "hen bryd ailwampio'r cynllun."

Roedd Peredur yn siarad ar y diwrnod y lansiwyd ymgynghoriad ar y dreth gyngor fel rhan o'r cytundeb cydweithredu a wnaeth Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru.

Cafodd polisi i wneud y dreth gyngor yn fwy blaengar ei gynnwys ym maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2016 a 2021.  Mae'r blaid wedi dadlau ers tro bod y system bresennol yn rhoi baich rhy drwm ar aelwydydd incwm is, sy'n golygu bod ardaloedd tlotach o Gymru yn cael eu cosbi'n fwy na'r rhannau mwy cefnog o'r wlad.

Bydd yr ymgynghoriad bellach yn para 12 wythnos, gyda newidiadau cychwynnol yn cael eu crybwyll i daliadau'r dreth gyngor yn 2025.

Dywedodd Peredur: "Rwy'n falch iawn ein bod yn cymryd cam yn nes at leddfu baich y dreth gyngor ar aelwydydd incwm isel o'r diwedd. Mae'r sefyllfa bresennol yn annheg ac mae'n hen bryd cyflwyno'r newidiadau hyn y mae Plaid Cymru yn eu cyflwyno.

"Rwy'n obeithiol y bydd yr ymgynghoriad yn arwain at y math o newidiadau yr oeddwn yn sefyll etholiad yn eu cylch, fel ailbrisiad er mwyn cynyddu nifer y bandiau ar ben uchaf y prisiadau tai.

"Bydd hyn yn gwneud y dreth gyngor yn fwy cymesur â gwerth eiddo, sy'n golygu bod y rhai sy'n gallu fforddio talu mwy yn gwneud hynny."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.

 


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-07-12 11:51:32 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd