Cyflwynwch Incwm Sylfaenol Cyffredinol

Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi galw ar Lywodraeth y DG i ddatblygu Incwm Sylfaenol Cyffredinol i helpu i reoli effaith yr argyfwng coronafirws ar bobl yng Nghymru.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price fod yr argyfwng cynyddol yn gofyn am “gamau radical a digynsail” gan Lywodraethau Cymru a’r DG, gan ddweud na fyddai “chwarae o gwmpas yr ymylon” yn ddigon.

Dywedodd y dylai Llywodraeth y DG gyflwyno Incwm Sylfaenol Cyffredinol i ganiatáu i bawb dderbyn “taliadau cyfradd unffurf” yn ystod yr argyfwng i ganiatáu i bawb barhau i allu talu biliau a phrynu hanfodion.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru y byddai incwm sylfaenol cyffredinol fyddai’n cael ei dalu i bawb sydd mewn perygl o golli gwaith yn esgor ar ddwy fantais - helpu pobl a rhoi hwb economaidd mewn cyfnod o ansicrwydd enbyd. Ychwanegodd y gellid ei dalu’n gyflym ac yn syml mewn cyfnod cychwynnol o dri mis.

Dywedodd gweinidog cysgodol yr economi Helen Mary Jones AC, er y cafwyd manylion ddoe gan y Canghellor Rishi Sunak am yr help ariannol fyddai ar gael i fusnesau, “nad oedd digon” o help ariannol i unigolion. Dywedodd Ms Jones y dylai Llywodraethau Cymru a’r DG warantu na fydd neb yn cael ei droi allan o’i gartref oherwydd ôl-ddyledion rhent. Galwodd Ms Jones ar Lywodraeth Cymru i wahardd troi pobl sy’n rhentu allan a rhoi rhyddhad rhent i bobl sy’n rhentu.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price,

“Mae’r argyfwng cynyddol yn gofyn am weithredu radical a digynsail gan Lywodraethau Cymru a’r DG. Fydd chwarae o gwmpas yr ymylon ddim yn ddigon.

“Fodd bynnag, ni fydd yn gynaliadwy chwarae o gwmpas ar ymylon ein system les doredig. Gyda gweision sifil yr AGPh eisoes dan bwysau, rhaid i Lywodraeth y DG ymrwymo i gyflwyno ffynhonnell sefydlog o incwm i bob dinesydd yn ystod yr argyfwng hwn.

“Byddai Incwm Sylfaenol Cyffredinol o fil o bunnoedd y mis yn caniatáu i bawb sydd mewn perygl o golli gwaith dderbyn taliadau cyfradd unffurf yn ystod yr argyfwng unigryw hwn. Byddai hefyd yn esgor ar y fantais ddeuol o roi hwb economaidd mewn cyfnod o ansicrwydd enbyd ac fe ellid ei dalu’n sydyn ac yn syml dros gyfnod cychwynnol o dri mis.

Dywedodd y gweinidog cysgodol dros yr economi, Helen Mary Jones AC,

“Rhoddodd y cyhoeddiad ddoe gan Ganghellor y DG beth help a sicrwydd i fusnesau, ond dim digon i unigolion.

“Er enghraifft, mae ar bobl sy’n talu rhent angen yr un lefel o warchodaeth â’r sawl sy’n talu morgais. Rhaid cael yr un lefel o gefnogaeth ariannol i bawb.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu hefyd – rhaid iddynt wahardd troi allan bobl sy’n rhentu, a rhoi rhyddhad rhent i bobl sy’n rhentu. Mae angen i ni weld Llywodraethau Cymru a’r DG yn gwarantu na chaiff neb ei adael heb do uwch ei ben yn ystod yr argyfwng hwn.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd