Peredur yn galw ar Lywodraeth Cymru i Fonitro Toriadau Canolfannau Dydd i Oedolion Anabl yng Nghaerffilli

Pred_profile_2.jpg

Mae AS Plaid Cymru wedi codi'r mater o lai o fynediad i ofal dyddiol i oedolion anabl tra’n siarad yn y Senedd.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths wrth gyd-Aelodau'r Senedd fod toriadau i'r ddarpariaeth a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a reolir gan Lafur wedi bod yn "niweidiol iawn i oedolion anabl a'u teuluoedd".

Galwodd Peredur ar y Prif Weinidog i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol a monitro a yw cynghorau'n cyflawni eu rhwymedigaethau statudol ac a oes digon o arian ar waith. Ymatebodd Mark Drakeford drwy ddweud: "Yn y pen draw, penderfyniadau lleol yw'r rhain a wneir gan y bobl hynny sydd agosaf at y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gan ystyried, fel y mae Cyngor Caerffili, rwy'n siŵr, yn ei wneud, farn ei thrigolion lleol ei hun."

Yn ystod ei gwestiwn, dywedodd Peredur: "Rwyf am dynnu sylw at y gostyngiad mewn ddarpariaeth gofal dydd i oedolion anabl ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. I rai, mae oriau wedi gostwng o 30 awr yr wythnos i ddim ond chwech, gostyngiad o 80 y cant mewn cymorth sydd wedi bod yn niweidiol iawn i oedolion anabl a'u teuluoedd.

"Mae grŵp Plaid Cymru ar y cyngor bellach wedi galw am foratoriwm ar y newidiadau hyn. Ychydig ddyddiau'n ôl, siaradais â thad sy'n gorfod ystyried rhoi ei fab mewn gofal preswyl gan na all ef na'i wraig ymdopi mwyach.

"Nid yn unig y byddai hyn yn peri pryder i bawb dan sylw, ond byddai'n costio llawer mwy i'r awdurdod lleol yn y pen draw na phe baent yn cadw'r ddarpariaeth gofal dydd llawn amser yn tyfu."

Ychwanegodd: "Brif Weinidog, a oes canllawiau y gall eich Llywodraeth eu rhoi i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod oedolion anabl a'u teuluoedd yn cael y cymorth a'r seibiant y maent yn eu haeddu, y mae arnynt eu hangen, ac sy’n addas iddynt?

"A oes unrhyw un yn y Llywodraeth yn monitro a yw awdurdodau llywodraeth leol yn cyflawni eu rhwymedigaeth statudol ynghylch pobl anabl ac a oes cyllid digonol ar waith iddynt wneud hynny?"

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog: "Lywydd, rwyf wedi dilyn y ddadl ddiweddar am wasanaethau gofal dydd yng Nghaerffili ac rwy'n eithaf sicr y bydd y rhai sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau anodd hynny wedi bod yn gwrando'n astud ar yr hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud heddiw ac ar farn eu cymunedau lleol.

"Yn wir, mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ar yr holl faterion hyn ac yn monitro gwariant awdurdodau lleol drwy amrywiaeth gymhleth o lwybrau, gan gynnwys ym maes gwasanaethau cymdeithasol.

"Yn y pen draw, penderfyniadau lleol yw'r rhain a wneir gan y bobl hynny sydd agosaf at y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gan ystyried, fel y mae Cyngor Caerffili, rwy'n siŵr, yn ei wneud, farn ei thrigolion lleol ei hun."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-09-21 17:33:10 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd