Gwell Gofal Deintyddol i'w Gyflwyno mewn Cartrefi Gofal Yn dilyn Dadl Fer gan Peredur

Pred_profile_3.jpg

Mae AS Plaid Cymru wedi llwyddo i gael gofal deintyddol mewn cartrefi gofal yn ôl ar agenda'r Llywodraeth Lafur.

Defnyddiodd Peredur Owen Griffiths, AS Dwyrain De Cymru, sydd yn lefarydd ar bobl hŷn a gofal cymdeithasol, ddadl fer i godi ymwybyddiaeth at y diffyg sylw gan y llywodraeth ar ofal deintyddol mewn cartrefi gofal preswyl.

Roedd y Llywodraeth Lafur wedi sefydlu rhaglen Gwên am Byth i wella'r diffygion mewn gofal deintyddol a gydnabuwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Fodd bynnag, cyhoeddwyd diweddariad diwethaf y llywodraeth ar y rhaglen ym mis Rhagfyr 2019 - cyn i bandemig y coronafeirws newid wyneb gofal cymdeithasol.

Yn ystod y ddadl fer o'r enw 'Mwy na gwên yn unig: A yw preswylwyr cartrefi gofal yn cael y driniaeth ddeintyddol gywir?' Dywedodd Peredur ei bod yn bryd i'r llywodraeth ddatgelu pa gynlluniau oedd ganddynt yn y maes.

I danlinellu pwysigrwydd gofal deintyddol ymhlith pobl hŷn, cyfeiriodd at enghraifft a roddwyd iddo gan ei ddeintydd yn ystod apwyntiad diweddar.

"Yn ystod ein sgwrs," meddai Peredur,  "soniodd fy deintydd am rai o'i gleifion hirsefydlog, oedd wedi symud i fyw mewn cartrefi gofal. O dan ei ofal, roedd ei gleifion wedi cynnal dannedd a cheg iach am flynyddoedd lawer nes iddynt symud i gartref gofal.

"Mae wedi cael sioc o weld faint o'i gleifion sydd wedi cael dirywiad dramatig yn eu hiechyd deintyddol ers symud i gartref gofal. "

Ychwanegodd: "Rydyn ni i gyd yn gwybod bod hylendid ceg yn hanfodol. Gwyddom fod datblygiadau wedi'u gwneud—mae llai o ddannedd gosod mewn gwydrau o ddŵr ar ochrau gwelyau, o'i gymharu ag ychydig ddegawdau byr yn ôl. Y rheswm am hyn yw datblygiadau mewn gofal deintyddol.

"Fy ofn i yw bod gofal deintyddol wedi cael ei osod yn ôl yn fawr yn ystod y pandemig. Codaf y mater hwn yma yn y Siambr heddiw i beidio â beirniadu'r Llywodraeth, na chartrefi gofal preswyl, nac ymarferwyr deintyddol sy'n gweithio mor galed, ond i sicrhau bod gofal deintyddol i bobl hŷn ar yr agenda, ei fod yn cael ei ymchwilio'n weithredol a bod cynlluniau wrth gefn yn cael eu llunio i ymateb i'r newidiadau ysgubol y mae'r pandemig byd-eang hwn wedi'u cael ar ofal cymdeithasol.

"Mae angen y cynlluniau hyn. Os ydyn nhw wrthi'n cael eu cynllunio, mae angen i ni glywed amdanyn nhw."

"Rydyn ni'n drymio i mewn i'n plant bwysigrwydd brwsio'u dannedd. Yn wir, pan fyddwn yn cael dannedd am y tro cyntaf, mae'r bobl sy'n gofalu amdanom yn gwneud yn siŵr ein bod yn brwsio ein dannedd.

"Dylai hyn fod yn wir drwy gydol ein bywydau. Dylem fod yn helpu ein pobl hŷn mewn cartrefi gofal i gynnal yr arferion plentyndod hynny.

"Dyna pam ei bod mor bwysig bod y pwnc hwn yn parhau ar yr agenda. Yn ogystal, gwyddom y gall iechyd deintyddol unigolyn ddirywio mewn cyfnod byr o amser, felly rhaid inni ystyried sut y gellir darparu gofal deintyddol o'r radd flaenaf i breswylwyr cartrefi gofal yn ystod pandemig.

"Rwy'n gobeithio bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd gytuno arno. Gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddod â'r momentwm ar y mater pwysig hwn yn ôl. Ac rwy'n gobeithio y gallwn ddarparu mwy na gwên yn unig."

Yn ystod y ddadl, galwodd cyd-aelod Peredur o Blaid Cymru  - Sioned Williams - ar i'r llywodraeth sicrhau bod unrhyw waith ar ofal deintyddol mewn cartrefi gofal yn cael ei olrhain fel y gellir mesur llwyddiant ai peidio. 

Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan y byddai'r llywodraeth yn cyflwyno mwy o fesurau i'w gwneud yn haws i gartrefi gofal wella gofal deintyddol i breswylwyr.

Dywedodd: "Er mwyn mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn, ac ehangu mynediad i'r rhaglen, rwyf wedi cyflwyno dull gweithredu symlach, sydd â'r bwriad o hwyluso mwy o gartrefi gofal i gyrraedd y safonau gofynnol hanfodol a i allu cymryd rhan.

"Gelwir hyn yn Essential Gwên am Byth.

"Bydd y cartrefi hynny sydd eisoes wedi ymgysylltu'n llawn yn parhau i gael eu cefnogi, er mwyn cynnal rhagoriaeth mewn safonau gofal y geg. Gellir cychwyn y dull symlach mewn cartrefi gofal nad ydynt wedi dechrau'r rhaglen neu sydd wedi ei chael yn anodd cydymffurfio â'r dull presennol i Gymru gyfan.

"Drwy fabwysiadu'r dull hwn, gellir cynnwys pob cartref gofal, ledled Cymru, yn y rhaglen, a gall pob preswylydd elwa o'r manteision sy'n cael eu cynnig drwy Gwên am Byth. Mae'r rhaglen, gan gynnwys cynnig Essential Gwên am Byth, bellach yn ailddechrau.

"Gyda llwyddiant cyflwyno'r brechlyn, defnyddio hyfforddiant digidol, ac argaeledd dyfeisiau “lateral flow”, mae'r risg i staff deintyddol cymunedol sy’n mynd i gartrefi gofal bellach wedi’i leihau'n fawr.

"Mae'r adferiad yn mynd rhagddo'n dda, ac rydym wedi ymgorffori dysgu o'r pandemig yn y rhaglen wrth i ni edrych ymlaen, gan gynnwys mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol, i ddarparu'r elfen hyfforddi."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-07-08 15:54:57 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd