Peredur yn Galw am Gyfiawnder yn ystod Mis Balchder Anabledd

Pred_Profile_10.jpg

Mae AS Plaid Cymru wedi galw am gydraddoldeb i bobl anabl yn ystod Mis Balchder Anabledd.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths - sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru - fod gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl o hyd ac wedi cefnogi ymdrechion i wneud pethau'n decach.

Cynhelir Mis Balchder Anabledd ym mis Gorffennaf bob blwyddyn ac mae'n rhoi cyfle i ddathlu'r gymuned anabl a thynnu sylw at faterion y mae pobl anabl yn eu hwynebu bob dydd.

Yn ôl briff ymchwil seneddol Pobl Anabl mewn Cyflogaeth o fis Ebrill 2021, dim ond 52.3% o bobl anabl sydd mewn cyflogaeth o'i gymharu ag 82% o'r boblogaeth abl.

Yn ôl data o 2020, roedd y bwlch cyflog i bobl anabl yn 18% yng Nghymru. Mae'r ymchwil hefyd yn awgrymu bod menywod anabl yn tueddu i gael eu heffeithio fwyaf gan y bwlch cyflog hwn, gan ennill 36 y cant yn llai ar gyfartaledd na'u cymheiriaid abl. Mae dynion anabl yn ennill £2.15 yr awr yn llai, ar gyfartaledd, na'u cydweithwyr abl.

Dywedodd Peredur: "Mae Mis Balchder Anabledd yn rhoi cyfle i ni ddathlu pobl anabl a'r cyfraniad y maent yn ei wneud i'n cymdeithas.

"Mae hefyd yn ein hatgoffa o'r anawsterau y maent yn dal i'w hwynebu er gwaethaf deddfwriaeth fel Deddf Cydraddoldeb (2010) sydd i fod i hyrwyddo cyflog cyfartal a lefelau cyflogaeth cyfartal ymhlith cymunedau anabl a chymunedau galluog.

"Nid ydym eto wedi creu'r chwarae teg hwnnw sydd i’w weld ar draws holl bobl anabl a'u teuluoedd.

"Rwy'n gobeithio yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod y byddwn yn gweld cydraddoli mewn lefelau cyflog a lefelau cyflogaeth rhwng yr anabl a'r rhai abl."

Ychwanegodd: "Ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, mae'r mater o oedolion anabl sydd angen gofal canolfan ddydd ond nad ydynt yn ei gael, yn dal heb ei ddatrys.

"Nid yw oedolion sy'n agored i niwed yn cael y ddarpariaeth y maent yn ei haeddu sy'n golygu nad yw eu teuluoedd yn cael seibiant digonol ychwaith.

"Lansiwyd ymgynghoriad i ddyfodol gwasanaethau ond mae llawer o gwestiynau o hyd am hyn.

"Yn y cyfamser, mae oedolion anabl a'u teuluoedd yn dioddef ac mae hyn yn anghyfiawnder."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.

 

 


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-07-09 13:30:32 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd