Dyfarnwyd llai na 9,000 o daliadau i bensiynwyr o dan y Gronfa Cymorth Dewisol, yn ôl MS Plaid Cymru.
Fe wnaeth Peredur Owen Griffiths AS ddatgelu'r ffigyrau - oedd yn ymwneud â'r cyfnod ar gyfer Ebrill 2021 hyd at ganol mis Chwefror - yn ystod cyfres o gwestiynau ysgrifenedig i'r Gweinidog Dros Gyfiawnder Cymdeithasol Llafur Jane Hutt.
Mewn ymateb ysgrifenedig i Peredur, dywedodd Ms Hutt: 'Yn y flwyddyn ariannol gyfredol 1 Ebrill 2021 tan 16 Chwefror 2022 cafwyd 14,130 o geisiadau i'r Gronfa Cymorth Dewisol ar gyfer taliadau brys, gydag 8,175 o ddyfarniadau yn dod i gyfanswm o £470,616 i gleientiaid 60 oed a throsodd.
'Nid yw'r data'n caniatáu ar gyfer eitemeiddio hawliadau tanwydd yn unig sydd wedi'u cynnwys yn y categori bwyd, nwy, trydan.'
O ystyried bod unigolion yn cael hyd at bum dyfarniad yr un, gallai nifer y bobl sy'n elwa o'r taliadau fod yn llawer is nag 8,175. Mae'r ffigurau hefyd yn dangos bod mwy na 40% o geisiadau wedi'u gwrthod.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 85,843 o aelwydydd yng Nghymru yn hawlio Credyd Pensiwn a bod bron i 1 o bob 5 o bobl hŷn yn byw mewn tlodi incwm cymharol.
Dywedodd Peredur: "Rwy'n bryderus o weld y ffigurau hyn gan Lywodraeth Cymru ar y Gronfa Cymorth Dewisol.
"Mae bron i hanner yr holl geisiadau'n cael eu gwrthod sy'n awgrymu y gallai'r meini prawf ar gyfer y gronfa fod yn rhy llym ac nid yw pobl sydd wir angen cymorth ariannol yn cael y cymorth hwnnw.
"Mae'r £470k a ddyfarnwyd i bobl yng Nghymru sy'n 60 oed neu'n hŷn hefyd yn swm bach yn y cynllun mawreddog o bethau - mae ychydig dros 3% o gyfanswm y gyllideb ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol yn y flwyddyn ariannol hon.
"Hoffwn i'r llywodraeth ymchwilio i'r mater hwn er mwyn sicrhau bod y system yn deg a'i bod yn cael arian i'r rhai sydd ei angen.
"Rydym yng nghanol argyfwng costau byw, ac mae'n hanfodol bod y rhwyd ddiogelwch i bobl yn addas i ymarfer.”
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb