Rhoi Mwy o Lais i Drigolion ar Fesurau Lleihau Cyflymder – Peredur

Pred_profile.JPG

Mae Aelod Rhanbarthol o'r Senedd sy'n cynrychioli Blaenau Gwent wedi galw ar y Prif Weinidog i'w gwneud yn haws i drigolion weithredu ar oryrru yn eu cymunedau.   

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS fod ei brofiad o helpu trigolion Six Bells i geisio atal modurwyr sy'n goryrru wedi dangos y rhwystrau a'r biwrocratiaeth helaeth sy'n atal gweithredu rhagweithiol. Dywedodd wrth y Senedd ei bod yn rhwystredig bod yn rhaid cael marwolaeth neu ddamwain ddifrifol cyn i unrhyw beth gael ei wneud. 

Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog, dywedodd Mr Owen Griffiths: "Mae Heddlu Gwent yn cwmpasu rhanbarth Dwyrain De Cymru lle’r wyf yn gynrychioli. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, hwy oedd yr unig heddlu i gofnodi cynnydd mewn damweiniau traffig ar y ffyrdd.

"Wrth edrych yn fanylach ar y ffigurau hyn maent yn dangos bod digwyddiadau lle cafodd rhywun ei anafu'n ddifrifol wedi mwy na dyblu o 82 yn 2015 i 179 yn 2019. 

"Rwyf wedi bod yn rhan o ymgyrch lleihau cyflymder ar strydoedd Six Bells ym Mlaenau Gwent; os na wneir rhywbeth yn fuan, mae preswylwyr yn poeni y bydd rhywun yn cael ei anafu'n ddifrifol cyn bo hir. 

"Un o'r rhwystrau i gyflwyno mesurau gostegu traffig yw nad yw digwyddiad difrifol wedi digwydd eto. Dylem allu gweithredu cyn i rywun farw. 

"Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i symleiddio'r broses i alluogi cymunedau fel Six Bells i gael mwy o reolaeth dros y mesurau gostegu traffig ar eu strydoedd?"

Mewn ymateb, atebodd y Prif Weinidog fod ffordd sefydledig o benderfynu ar ddiogelwch ar y ffyrdd ac ni roddodd unrhyw arwydd y byddai hyn yn newid.

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-06-16 15:46:35 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd