Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi heddiw cynnig aelodaeth am ddim o Plaid Ifanc - Adran Ieuenctid Plaid Cymru - i bob person ifanc 14-18 oed yng Nghymru.
Daw’r cynnig fel rhan o’u menter ‘Gellir Gwell’ sy’n canolbwyntio ar adeiladu dyfodol gwell i Gymru yn dilyn argyfwng y Coronafeirws.
Bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf erioed yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod yr ymgyrch dros “Gymru rydd, deg a chynhwysol” yn un yr oedd am i bobl ifanc Cymru fod yn rhan ohoni.
Dywedodd Mr Price fod y dyfodol yn perthyn i bobl ifanc Cymru ac y byddai'n defnyddio ei lais fel Prif Weinidog nesaf Cymru i roi llais i bobl ifanc.
Dywedodd Sioned James a Morgan Bowler Brown, cyd-gadeiryddion Plaid Ifanc, fod yr aelodaeth am ddim yn “rhodd” a bod y cynllun yn rhan o ewyllys Plaid Cymru i sicrhau bod pobl ifanc yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol Cymru.
Meddai Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price,
“O fewn blwyddyn bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal ac am y tro cyntaf, bydd cyfle i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio am y tro cyntaf.
“Mae’r ymgyrch dros Gymru newydd – gwlad rydd, teg a chynhwysol - yn un gyffrous - ac rydw i eisiau i bobl ifanc Cymru fod yn rhan o’r cyffro hwn. Nid fy nyfodol i yw’r dyfodol hwnnw yn unig – mae’n perthyn i bobl ifanc Cymru - ond gallaf ddefnyddio fy llais fel y Prif Weinidog nesaf i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Dywedodd Sioned James a Morgan Bowler Brown, cyd-gadeiryddion Plaid Ifanc,
“Mae aelodaeth am ddim i bobl ifanc yn rhodd ym mhob ffordd.
“Trwy gymryd rhan mewn democratiaeth, mae pobl ifanc yn magu hyder ac ymdeimlad o gymuned.
“Trwy’r cynllun hwn, mae Plaid Cymru yn grymuso pobl ifanc ac yn symboleiddio penderfyniad y blaid i sicrhau bod pobl ifanc yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol Cymru.