Mae AS Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu eu cynlluniau ar gyfer lliniaru tlodi tanwydd y gaeaf hwn.
Ysgrifennodd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, at y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ar ôl i adroddiadau ddod i'r amlwg o gynnydd disgwyliedig yng nghost ynni.
Adroddodd Ofgem yn ddiweddar y bydd biliau ynni ar gyfer 15 miliwn o aelwydydd ledled y DU yn cynyddu o leiaf £139 y gaeaf hwn. Bydd hyn yn golygu y bydd prisiau cyfartalog cwsmeriaid sy'n talu drwy ddebyd uniongyrchol yn neidio i £1,277. Ar gyfer cwsmeriaid rhagdalu mae'r cynnydd yn uwch eto – rhagwelir y bydd eu prisiau cyfartalog yn cynyddu £153 i £1,309.
Mewn llythyr at y Gweinidog, ysgrifennodd Peredur: ‘Yr wyf yn pryderu'n fawr am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar gyllidebau aelwydydd sydd eisoes dan straen a chyfraddau tlodi uchel mewn llawer o'r cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli yn Nwyrain De Cymru.
‘Bydd y newidiadau'n taro'r rhai sydd â'r lleiaf galetaf ac, o ystyried bod fy mhortffolio yn cynnwys 'pobl hŷn', yr wyf yn ymwybodol o'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ein pensiynwyr yng Nghymru.
‘Yn fyr, bydd y pris cyfanwerthu hwn yn golygu y bydd mwy a mwy o bobl yn gorfod dewis rhwng bwyd neu danwydd – sefyllfa sy'n annerbyniol ac y dylid ei herio.
‘O ystyried y byddwn yn gweld diwedd ar y Cynllun Cadw Swyddi cyn bo hir a thoriad i'r codiad credyd cynhwysol, nid yw'n syndod bod y Ganolfan Cyngor ar Bopeth wedi rhybuddio am 'storm berffaith' i deuluoedd yr hydref hwn.
‘O ystyried bod eich portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol yn cwmpasu tlodi tanwydd, hoffwn wybod beth a wnewch o'r sefyllfa hon ac a ydych yn rhoi unrhyw gynlluniau i liniaru'r cynnydd aruthrol hwn mewn prisiau?
‘A gytunwch hefyd fod arnom angen cydraddoldeb â'r Alban o ran datganoli gweinyddiaeth y system les fel y gallwn ddyfeisio dull mwy tosturiol o ymdrin â phobl mewn angen a fydd yn atal mwy o deuluoedd rhag cael eu taflu mewn i dlodi?’
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb