Codiad cyflog i'n weithwyr gofal

 

https://www.plaid.cymru/give_our_carers_a_pay_rise

Rydym yn galw am godiadau cyflog i holl staff y GIG a staff gofal cymdeithasol fel cydnabyddiaeth o’u gwaith yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.

Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn peryglu eu bywydau yn ystod yr argyfwng, a’r lleiaf y gellir ei wneud y codi eu cyflog.

Dylai fod gan staff gydraddoldeb cyflog gyda staff y GIG a dylent oll gael eu symud i delerau ac amodau’r GIG.

Meddai Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC,

“Mae’r argyfwng hwn yn wir wedi codi’r llen ar effaith toriadau creulon flwyddyn ar flwyddyn, a’r ffordd yr edrychir ar ofal cymdeithasol fel gwasanaeth eilradd. Gyda’r clefyd yn rhemp mewn llawer o gartrefi gofal, allai’r angen am delerau ac amodau gwell o lawer a gweithlu a werthfawrogir ddim bod yn gliriach. Beth petai pob cartref gofal wedi cael CGP o’r cychwyn? Faint o fywydau fyddai wedi cael eu harbed?

“Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn peryglu eu bywydau er ein lles ni yn yr argyfwng hwn. Y lleiaf y gallwn ni wneud yw dangos ein bod yn rhoi gwerth arnynt trwy ei gwneud yn rhwydd iddynt gael profion, cael CGP digonol, codi eu cyflog a gwella eu hamodau gwaith.

“Rwy’n gobeithio mai’r peth cadarnhaol ddaw allan o’r hunllef hon yw i ni gofio gymaint yr ydym yn trysori ein gwasanaethau iechyd a gofal, ond y sylweddolwn hefyd fod yn rhaid iddynt dalu’n iawn amdanynt. Os ydym eisiau gwasanaeth iechyd a gofal da a chynaliadwy, mae’n rhaid i ni dalu amdano. Mae arnom angen yr adnoddau iawn, y bobl iawn, yn cael eu talu’n iawn, heb orfod ysgwyddo baich gwaith anghynaladwy.

Trwy lofnodi’r ddeiseb hon, yr ydych yn cytuno i Blaid Cymru gofnodi eich barn wleidyddol a’i ddefnyddio at ddibenion ymgyrchu. Gallwch weld ein polisi diogelu data yma.

Rydym yn gadw am godiad cyflog i weithwyr gofal cymdeithasol  a diwedd ar gontractau dim oriau a gweithio achlysurol.

Mae gweithwyr y GIG hefyd yn haeddu gwell, ac wedi degawd o rewi cyflogau a thoriadau mewn termau real, dylai pawb gael codiadau tymor real i bawb.

Dylai hynny gynnwys addysgedau go-iawn i fyfyrwyr nyrsio ac amser hyfforddi wedi ei warchod.

https://www.plaid.cymru/give_our_carers_a_pay_rise

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd